Mae ysgolion a cholegau yn ymateb yn dda i newidiadau mewn cymwysterau TGAU Saesneg, Cymraeg a mathemateg, ond mae eu hymateb i Fagloriaeth Cymru wedi bod yn amrywiol
Mae adroddiad eang gan Estyn, ‘Y manylebau TGAU newydd mewn Saesneg iaith, Cymraeg iaith, mathemateg, mathemateg-rhifedd a Bagloriaeth Cymru mewn ysgolion a cholegau’ yn ystyried ansawdd addysgu ac asesu, cynllunio, datblygiad staff ac arweinyddiaeth wrth gyflwyno’r cymwysterau newydd hyn. Ymwelodd arolygwyr ag ystod eang o ysgolion a cholegau, gan gynnwys nifer fach o ysgolion arloesi. Mae astudiaethau achos o arfer ddiddorol yn amlinellu strategaethau llwyddiannus o ysgolion a cholegau ar hyd a lled Cymru.
Dywed Meilyr Rowlands, y Prif Arolygydd,
Mae’r cymwysterau newydd hyn yn unigryw i Gymru ac fe’u cynlluniwyd i wella gwybodaeth a medrau disgyblion, ac yn arbennig, eu gallu i feddwl yn feirniadol a datrys problemau. Maent hefyd yn rhoi mwy o bwyslais ar ansawdd ysgrifennu, rhesymu a defnydd disgyblion o fathemateg mewn ystod eang o gyd-destunau. Dylai ysgolion a cholegau ymateb i’r newidiadau pwysig hyn a helpu disgyblion o bob gallu i gyflawni’u potensial llawn.
Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at ddull Ysgol Uwchradd Caerdydd o addysgu’r cymhwyster mathemateg newydd. O ganlyniad i roi pwyslais cryf ar resymu mewn gwersi mathemateg, mae disgyblion wedi dod yn fwy hyderus yn eu medrau, gan arwain at ganlyniadau arholiadau rhagorol. Mae astudiaeth achos arall yn tynnu sylw at Ysgol Gyfun Gŵyr yn Abertawe sy’n herio disgyblion i gyrraedd y lefelau cyrhaeddiad uchaf un ym Magloriaeth Cymru. Drwy herio ei disgyblion mwy abl, mae’r ysgol wedi gwella safonau a chyflawniad. Mae 12 o astudiaethau achos eraill yn amlinellu arfer ddiddorol ac effeithiol ym Magloriaeth Cymru, Saesneg, Cymraeg a mathemateg.
Mae’r adroddiad yn argymell y dylai ysgolion a cholegau:
- Ddarparu tasgau ysgogol sy’n datblygu gwydnwch dysgwyr
- Sicrhau bod dysgwyr yn gwella eu hysgrifennu mewn Cymraeg a Saesneg
- Cael disgwyliadau uchel fod pob dysgwr yn cyfrannu’n llafar, yn enwedig yn Gymraeg
- Gwella medrau datrys problemau disgyblion mewn mathemateg ac mewn mathemateg‑rhifedd
- Datblygu medrau darllen lefel uwch disgyblion mewn Saesneg, Cymraeg a mathemateg a Bagloriaeth Cymru