Mae partneriaethau llwyddiannus rhwng ysgolion yn dibynnu ar weledigaeth glir ar gyfer gwella
Mae gan lawer o’r 72 o ysgolion ffederal yng Nghymru lai na 150 o ddisgyblion, ac mae tua hanner ohonynt yn ysgolion cyfrwng Cymraeg. Trwy gyfuno adnoddau, mae llawer o ysgolion wedi goresgyn heriau denu staff, rheoli cyllid a niferoedd disgyblion yn gostwng.
Dywed Claire Morgan, Cyfarwyddwr Strategol,
Mae llawer o fanteision i ffedereiddio ysgolion pan fydd yn digwydd am y rhesymau cywir ac yn cael ei wneud yn briodol.
Cyn ymrwymo i ffedereiddio, dylai arweinwyr ystyried y nodau hirdymor a sut bydd cydweithio â’i gilydd yn ffurfiol o fudd i berfformiad disgyblion.
Mae angen i ffederasiynau gydweithio’r un mor agos â rhieni, dysgwyr a staff o bob un o’r ysgolion dan sylw hefyd, i wrando a gweithredu ar eu safbwyntiau er mwyn osgoi camsyniadau am y bartneriaeth.
Gall ein hadroddiad a’i arfer dda gael eu defnyddio gan ysgolion sy’n ystyried ffedereiddio, ac i helpu’r rhai sydd eisoes yn rhannu trefniadau llywodraethu.
Yn Sir Gaerfyrddin, mae staff sy’n rhan o ffederasiwn o dair ysgol cyfrwng Cymraeg wledig yn ystyried eu hunain yn un tîm. Mae arweinyddiaeth gref yn Ysgol Carwe, Ysgol Ponthenri ac Ysgol Gwynfryn wedi helpu athrawon a chynorthwywyr i ddeall gwaith y tair ysgol a rhannu strategaeth a nodau ar draws eu cymuned.
Mae ysgolion ffederal sy’n canolbwyntio’n gryf ar wella deilliannau i ddisgyblion ac yn gwrando’n ofalus ar safbwyntiau eu cymuned yn gallu elwa ynghynt yn sgil cydweithio â’i gilydd.