Erthyglau newyddion |

Mae partneriaethau llwyddiannus rhwng ysgolion yn dibynnu ar weledigaeth glir ar gyfer gwella

Share this page

Mae ysgolion sy’n rhannu corff llywodraethol yn gyfreithiol, ac sy’n rhannu pennaeth ac adnoddau eraill, yn llwyddiannus dim ond pan fyddant yn sefydlu strwythur arweinyddiaeth yn gyflym, ynghyd â chydweledigaeth glir o’r cychwyn cyntaf, yn ôl adroddiad ar ffedereiddio ysgolion a gyhoeddwyd heddiw gan Estyn.

Mae gan lawer o’r 72 o ysgolion ffederal yng Nghymru lai na 150 o ddisgyblion, ac mae tua hanner ohonynt yn ysgolion cyfrwng Cymraeg.  Trwy gyfuno adnoddau, mae llawer o ysgolion wedi goresgyn heriau denu staff, rheoli cyllid a niferoedd disgyblion yn gostwng.  

Dywed Claire Morgan, Cyfarwyddwr Strategol,

Mae llawer o fanteision i ffedereiddio ysgolion pan fydd yn digwydd am y rhesymau cywir ac yn cael ei wneud yn briodol.

 

Cyn ymrwymo i ffedereiddio, dylai arweinwyr ystyried y nodau hirdymor a sut bydd cydweithio â’i gilydd yn ffurfiol o fudd i berfformiad disgyblion.

 

Mae angen i ffederasiynau gydweithio’r un mor agos â rhieni, dysgwyr a staff o bob un o’r ysgolion dan sylw hefyd, i wrando a gweithredu ar eu safbwyntiau er mwyn osgoi camsyniadau am y bartneriaeth.

 

Gall ein hadroddiad a’i arfer dda gael eu defnyddio gan ysgolion sy’n ystyried ffedereiddio, ac i helpu’r rhai sydd eisoes yn rhannu trefniadau llywodraethu.

Yn Sir Gaerfyrddin, mae staff sy’n rhan o ffederasiwn o dair ysgol cyfrwng Cymraeg wledig yn ystyried eu hunain yn un tîm.  Mae arweinyddiaeth gref yn Ysgol Carwe, Ysgol Ponthenri ac Ysgol Gwynfryn wedi helpu athrawon a chynorthwywyr i ddeall gwaith y tair ysgol a rhannu strategaeth a nodau ar draws eu cymuned.

Mae ysgolion ffederal sy’n canolbwyntio’n gryf ar wella deilliannau i ddisgyblion ac yn gwrando’n ofalus ar safbwyntiau eu cymuned yn gallu elwa ynghynt yn sgil cydweithio â’i gilydd.