Mae mwy o ddisgyblion o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn mynychu’r ysgol, ond mae angen mwy o gymorth

Erthygl

Er 2011, bu mwy o blant o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn mynychu’r ysgol, ond mae angen gwella’r profiad addysg ar gyfer y disgyblion hyn a’u teuluoedd, yn ôl Estyn.

Mae adroddiad heddiw gan yr arolygiaeth yn amlygu bod niferoedd y disgyblion sy’n Sipsiwn, Roma a Theithwyr dros yr wyth mlynedd ddiwethaf wedi cynyddu bron 35% mewn ysgolion uwchradd, a 41% mewn ysgolion cynradd.

Mae llawer o ysgolion wedi codi ymwybyddiaeth am ddiwylliant a ffordd o fyw cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr mewn gwasanaethau a diwrnodau dathlu, ond mae angen hyrwyddo hyn yn fwy ar draws y cwricwlwm.

Dywed Meilyr Rowlands, Prif Arolygydd, “Mae plant o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr ymhlith ein dysgwyr sydd fwyaf agored i niwed.  Mae angen iddyn nhw gael y cymorth cywir yn yr ysgol i helpu gwneud y mwyaf o’u doniau, eu diddordebau a’u galluoedd.

Dim ond hanner y disgyblion o’r cymunedau hyn sy’n parhau i addysg uwchradd.  Er bod canlyniadau TGAU wedi gwella, disgyblion o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yw’r rhai sy’n cyflawni isaf o hyd o blith yr holl grwpiau ethnig.

“Mae angen i ysgolion sicrhau bod eu polisïau gwrth-fwlio yn ystyried anghenion penodol disgyblion o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a gwerthuso eu strategaethau ar gyfer cyflawniad, presenoldeb a phontio i helpu cynhyrchu gwelliant.”

Mae un astudiaeth achos yn yr adroddiad yn amlygu’r modd y bu Cyngor Caerdydd yn gweithio’n agos â disgyblion a rhieni o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr i’w helpu i symud o ysgol gynradd i ysgol uwchradd.  Trwy drefnu ymweliadau â’u hysgol newydd i helpu cael gwared ar unrhyw bryderon ac ofnau, cynyddodd nifer y disgyblion sy’n pontio i ysgolion uwchradd Caerdydd o 50% yn 2014 i 88% yn 2017.