Mae llawer o ysgolion yn cynllunio, cyflwyno ac yn rheoli eu pum diwrnod hyfforddi staff statudol yn effeithiol

Erthygl

Yn ystod y pum mlynedd diwethaf, llythrennedd sydd wedi cael y sylw mwyaf yn ystod HMS ac mae’r mwyafrif o ysgolion wedi cynnwys rhifedd yn eu cynlluniau HMS hefyd. Hyd yn hyn, lleiafrif o ysgolion yn unig sy’n bwriadu canolbwyntio ar leihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad yn 2012-2013.

Dywed y Prif Arolygydd, Ann Keane,

“Ansawdd yr addysgu yw un o’r dylanwadau mwyaf ar safonau disgyblion a gall HMS helpu ysgolion wella addysgu trwy rannu arfer dda. Mae gan ysgolion ran allweddol mewn helpu disgyblion o gefndiroedd difreintiedig gyflawni mwy a mynd i’r afael â’r bwlch rhwng perfformiad disgyblion, felly mae’n siomedig na fu hyn yn flaenoriaeth uchel ar gyfer gweithgareddau HMS.

 

“Mae angen i reolwyr wneud mwy i arfarnu effaith HMS – i ddarganfod a yw HMS yn gwella gwybodaeth a medrau staff neu ddeilliannau i ddisgyblion ac yn darparu gwerth am arian.”

Yn ystod HMS, mae ysgolion ar gau i ddisgyblion tra caiff staff eu cynnwys mewn ystod eang o weithgareddau hyfforddi. Mae mwyfwy o ysgolion yn dewis defnyddio arbenigedd eu staff eu hunain i gyflwyno HMS yn lle defnyddio cwmnïau hyfforddi allanol. Hefyd, mae llawer o ysgolion yn cydweithio ag ysgolion eraill ar HMS ar y cyd, sy’n helpu i rannu arfer dda a rhannu costau hyfforddi. Yn yr ysgolion gorau, caiff staff cymorth dysgu eu cynnwys mewn cynllunio ac arwain HMS hefyd.

Mae’r HMS gorau yn cynnwys staff yn weithredol mewn seminarau, gweithdai a thrafod gwersi enghreifftiol. Er enghraifft, mae gan Ysgol Gyfun y Pant yn Rhondda Cynon Taf ddiwylliant cryf fel cymuned ddysgu. Mae uwch reolwyr yn cynllunio diwrnodau HMS wedi’u seilio ar flaenoriaethau’r ysgol ac awgrymiadau gan staff. Mae hyn wedi arwain at raglen ddynamig, werthfawr a phroffesiynol iawn sy’n edrych ar bynciau fel codi cyflawniad bechgyn, athroniaeth addysgu a sut i fanteisio i’r eithaf ar gynorthwywyr cymorth dysgu.

Mae’r adroddiad yn cynnwys naw astudiaeth achos ‘arfer orau’ o ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig. Mae hefyd yn gwneud argymhellion i ysgolion, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau y caiff HMS ei gysylltu’n agos â blaenoriaethau gwella ysgol, y caiff HMS ei arfarnu, a bod staff cymorth dysgu yn cael eu cynnwys yn ogystal ag athrawon.

Nodiadau i Olygyddion:

Ynglŷn â’r adroddiad

  • Comisiynwyd adroddiad Estyn, ‘HMS statudol mewn ysgolion’ gan Lywodraeth Cymru, ac mae ar gael yn ei gyfanrwydd yma.
  • Mae sail dystiolaeth yr adroddiad yn cynnwys ymweld â 15 ysgol a chraffu ar ddata a deilliannau arolygu, ynghyd â chanlyniadau holiadur a lenwyd gan 76 o ysgolion a naw awdurdod lleol.

Astudiaethau achos arfer orau (Atodiad 1 yr adroddiad)

  • Ysgol Gyfun y Pant, Rhondda Cynon Taf
  • Ysgol Uwchradd Bryngwyn, Sir Gaerfyrddin
  • Ysgol Gynradd Gymunedol Llangynidr, Powys
  • Ysgol Abercaseg, Gwynedd
  • Ysgol Gynradd St Mark, Sir Benfro
  • Ysgol Gynradd Ynysddu, Caerffili
  • Ysgol TÅ· Gwyn, Caerdydd
  • Ysgol Uwchradd y Fflint, Sir y Fflint

Ynglŷn ag Estyn

Estyn yw’r Arolygiaeth Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Ein nod yw cyflawni rhagoriaeth i bawb mewn dysgu yng Nghymru. Rydym yn gwneud hyn trwy ddarparu gwasanaeth arolygu a chyngor annibynnol, o ansawdd uchel.

Ein gweledigaeth yw cael ein cydnabod trwy arbenigedd ein staff fel llais awdurdodol ar ddysgu yng Nghymru.

Rydym yn annibynnol ar, ond yn cael ein hariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru (o dan Adran 104 Deddf Llywodraeth Cymru 1998).

Am ragor o wybodaeth, ewch i’n gwefan www.estyn.gov.uk