Mae gwersi gwyddoniaeth mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yn dda, ond nid yw asesu'n ddigon cadarn - Estyn

Mae gwersi gwyddoniaeth mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yn dda, ond nid yw asesu’n ddigon cadarn

Erthygl

Mae adroddiad Estyn, Gwyddoniaeth yng nghyfnodau allweddol 2 a 3, yn amlygu rhai diffygion o ran dibynadwyedd a dilysrwydd asesiadau athrawon mewn gwyddoniaeth. Mae diffyg meini prawf asesu clir a threfniadau gwan ar gyfer gwirio mewnol yn ei gwneud yn anodd barnu a yw deilliannau asesiadau athrawon yn rhoi cyfrif gwirioneddol o safonau ai peidio.

Dywed y Prif Arolygydd, Ann Keane,

“Yn gyffredinol, canfu arolygwyr fod disgyblion wedi’u hysgogi’n dda mewn gwersi gwyddoniaeth. Mae clybiau gwyddoniaeth a theithiau maes yn cynnig profiadau diddorol sy’n helpu disgyblion i gyflawni safonau gwell. Mae pobl ifanc sy’n cymryd rhan mewn clybiau neu deithiau maes yn fwy tebygol o ddatblygu diddordeb mewn dilyn gyrfa mewn gwyddoniaeth.

 

“Mae ansawdd addysgu yn ffactor hanfodol o ran codi safonau ymhellach. Mae’r athrawon gorau yn meddu ar wybodaeth bynciol dda iawn ac maent yn deall sut i ennyn a chynnal diddordeb disgyblion. Er enghraifft, mae un o’r astudiaethau achos yn yr adroddiad yn disgrifio sut aeth disgyblion yn Ysgol Gyfun Cefn Saeson ati i ddysgu am foeseg clonio anifeiliaid, mewn gwers ddiddorol a rhyngweithiol a ddatblygodd eu dealltwriaeth wyddonol yn ogystal â’u meddwl beirniadol.

 

“Mae angen i ysgolion ddarparu cyfleoedd mwy heriol fel hyn i ymestyn pob disgybl ac mae ganddynt rôl allweddol o ran cynhyrchu’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr Cymreig.”

Canfu’r adroddiad nad yw disgyblion mwy galluog yn cael eu hymestyn ddigon yn y mwyafrif o wersi, a dim ond ychydig o ddisgyblion a oedd yn gallu dilyn eu diddordebau gwyddonol eu hunain. Mewn rhai gwersi mewn ysgolion cynradd, nid oes gan athrawon ddealltwriaeth gadarn o wyddoniaeth ac maent yn trosglwyddo eu camddealltwriaeth i ddisgyblion. Mae Estyn yn argymell bod ysgolion yn darparu hyfforddiant i athrawon sydd â dealltwriaeth wan o wyddoniaeth.

Bydd y rhan fwyaf o athrawon sy’n gweithio yn yr un ysgol yn dueddol o rannu arfer dda mewn addysgu a dysgu gwyddoniaeth, ond ychydig iawn o’r ysgolion yn yr arolwg a oedd yn meithrin cysylltiadau ag ysgolion eraill i rannu arfer dda yn ehangach. Nid yw awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol yn darparu digon o ddatblygiad proffesiynol na chymorth a chyngor i athrawon gwyddoniaeth.

Caiff profiadau dysgu mewn gwyddoniaeth eu cynllunio’n dda yn y mwyafrif o’r ysgolion yr ymwelodd Estyn â nhw. Fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o ysgolion yn defnyddio fersiwn cyn-2008 y Gorchmynion Pwnc ar gyfer gwyddoniaeth o hyd i gynllunio rhaglenni gwaith. Mae hyn oherwydd bod fersiwn 2008 y Cwricwlwm Cenedlaethol yn darparu llai o arweiniad na’r fersiwn flaenorol i helpu ysgolion i gynllunio dilyniant mewn gwybodaeth a dealltwriaeth wyddonol. Mae hyn yn golygu bod ychydig o ysgolion wedi cynllunio gwaith nad yw’n cynnwys digon o her na strwythur. Yn ogystal, nid yw’r ychydig o ysgolion uwchradd sydd wedi dilyn Cwricwlwm 2008 i’r gair yn paratoi disgyblion yn ddigon da ar gyfer meysydd llafur TGAU gwyddoniaeth. Mae Estyn yn argymell bod Llywodraeth Cymru’n adolygu’r Cwricwlwm Cenedlaethol i gynnwys rhagor o wybodaeth hanfodol.

Mae rhai ysgolion cynradd yn neilltuo awr yn unig ar gyfer addysgu gwyddoniaeth, nad yw’n ddigon o amser i edrych ar bob agwedd ar y Cwricwlwm Cenedlaethol yn effeithiol. Fodd bynnag, mae’r amser sydd wedi’i neilltuo ar gyfer addysgu gwyddoniaeth mewn ysgolion uwchradd yn ddigonol.

Mae’r adroddiad hefyd yn argymell bod Llywodraeth Cymru’n adolygu’r meini prawf sy’n cael eu defnyddio mewn asesiadau athrawon ac yn cyflwyno elfen o gymedroli allanol. Dylai ysgolion sicrhau bod eu harfer asesu a marcio yn rhoi cyngor uniongyrchol i ddisgyblion ar sut i wella eu dealltwriaeth a’u medrau gwyddonol.

Nodiadau i Olygyddion:

Ynglŷn â’r adroddiad

  • Comisiynwyd adroddiad Estyn, ‘Gwyddoniaeth yng nghyfnodau allweddol 2 a 3’, gan Lywodraeth Cymru ac mae ar gael yn ei gyfanrwydd yma.

    Mae sail dystiolaeth yr adroddiad yn cynnwys ymweld â naw ysgol gynradd a 10 ysgol uwchradd. Mae’r sampl hon yn ystyried lleoliadau daearyddol, cefndiroedd economaidd-gymdeithasol, meintiau ysgolion a chyd-destunau ieithyddol. Cymerwyd tystiolaeth ychwanegol o ddeilliannau asesiadau athrawon ar ddiwedd cyfnodau allweddol 2 a 3.

Astudiaethau achos arfer orau

  • Ysgol Gyfun Cefn Saeson, Castell-nedd Port Talbot
  • Ysgol Gynradd Pontarddulais, Abertawe
  • Ysgol Gynradd Gymraeg Gartholwg, Rhondda Cynon Taf
  • Ysgol Uwchradd Darland, Wrecsam

Ynglŷn ag Estyn

Estyn yw’r Arolygiaeth Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Ein nod yw cyflawni rhagoriaeth i bawb mewn dysgu yng Nghymru. Rydym yn gwneud hyn trwy ddarparu gwasanaeth arolygu a chyngor annibynnol, o ansawdd uchel.

Ein gweledigaeth yw cael ein cydnabod trwy arbenigedd ein staff fel llais awdurdodol ar ddysgu yng Nghymru.

Rydym yn annibynnol ar, ond yn cael ein hariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru (o dan Adran 104 Deddf Llywodraeth Cymru 1998).

I gael rhagor o wybodaeth, trowch at ein gwefan, sef www.estyn.gov.uk