Mae gweledigaeth uchelgeisiol ac addysgu a dysgu cryf yn hanfodol i daith ysgolion o ran y Cwricwlwm i Gymru

Erthygl

Ymwelodd arolygwyr â chymysgedd o ysgolion uwchradd, ysgolion pob oed ac ysgolion arbennig – o’r rhai sy’n gweithio gyda grwpiau datblygu’r cwricwlwm cenedlaethol i rai eraill sydd â llai o ymgysylltiad. Yn naturiol, mae ysgolion a arweiniodd y broses ddiwygio yn fwy hyderus o ran arloesi a rheoli newid. Mae’r adroddiad heddiw yn amlygu arfer sy’n dod i’r amlwg i helpu i gynorthwyo ysgolion yng Nghymru i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd.

Dywed y Prif Arolygydd, Meilyr Rowlands,

Yn ystod y cyfnod heriol hwn, mae rhai ysgolion wedi achub ar y cyfle i addasu eu cwricwlwm. Mae’r hyblygrwydd sy’n cael ei annog gan y Cwricwlwm i Gymru wedi helpu’r ysgolion yn wrth iddynt ymateb i’r pandemig.

Mae ennill calonnau a meddyliau’r holl staff yn gam allweddol i ysgolion ar eu taith â’r cwricwlwm. Mae arweinwyr ysgolion sy’n ymddiried yn eu staff ac yn annog creadigedd i wella dylunio’r cwricwlwm, cynllunio a deilliannau yn dweud y bu hyn yn ‘newid byd.

Bwriad adroddiad heddiw a’i astudiaethau achos yw cynorthwyo ysgolion sydd ar bob cam o ddylunio’r cwricwlwm, ar adeg pan allant fod yn teimlo’n bryderus o ran gwneud cynnydd.

Mae’r adroddiad yn cynnwys Ysgol Gatholig yr Esgob Vaughan, Abertawe, lle mae arweinwyr wedi cydweithio’n effeithiol â’u holl staff i ddatblygu gweledigaeth gyffredin – sy’n gam hanfodol i bob ysgol yng Nghymru wrth wireddu’r cwricwlwm.

Mae sicrhau addysgu a dysgu cryf yn elfen bwysig arall ar gyfer diwygio’r cwricwlwm yn llwyddiannus. Cynhwysodd Ysgol Ddydd Arbennig Crownbridge yn Nhorfaen yr holl staff mewn adolygu’r hyn a oedd o’r pwys mwyaf i ddisgyblion. Datgelodd y broses hon elfennau o’r cwricwlwm ‘nad ydynt yn agored i’w trafod’, a ffurfiodd ymagwedd yr ysgol tuag at y cwricwlwm ac addysgeg.