Mae gan ddisgyblion sy’n dilyn o leiaf ddwy TGAU trwy gyfrwng y Gymraeg fedrau Cymraeg gwell - Estyn

Mae gan ddisgyblion sy’n dilyn o leiaf ddwy TGAU trwy gyfrwng y Gymraeg fedrau Cymraeg gwell

Erthygl

Mae’r adroddiad yn bwrw golwg ar nifer y disgyblion sy’n parhau i astudio Cymraeg mamiaith ac astudio pynciau eraill trwy gyfrwng y Gymraeg trwy gydol eu haddysg ysgol. Yn ogystal, mae ‘Dilyniant ieithyddol a safonau Cymraeg mewn deg ysgol ddwyieithog’ yn arfarnu effeithiolrwydd y gwahanol fodelau cwricwlaidd a dulliau addysgu mewn deg ysgol ddwyieithog ar draws Cymru.

Meddai Ann Keane, y Prif Arolygydd,

“Yn yr ysgolion lle ceir cyfran uchel o ddisgyblion yn astudio TGAU trwy gyfrwng y Gymraeg, mae’r mwyafrif yn rhugl yn y Gymraeg ar draws amrywiaeth o gyd-destunau.

“Yn yr ysgolion sydd â chyfran isel o ddisgyblion sy’n dilyn TGAU trwy gyfrwng y Gymraeg, nid yw mwyafrif y disgyblion yn hyderus yn siarad nac yn ysgrifennu yn Gymraeg gan nad oes digon o gyfleoedd iddynt ddefnyddio’r iaith ar draws pob pwnc.

Fodd bynnag, dim ond mewn traean o ysgolion dwyieithog y mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion sy’n astudio Cymraeg mamiaith yn dilyn dwy TGAU ychwanegol neu fwy trwy gyfrwng y Gymraeg.

At ei gilydd, mae cyfran y disgyblion sy’n astudio Cymraeg mamiaith yn gostwng wrth iddynt fynd trwy eu haddysg. Er mai Gwynedd, Ynys Môn, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin sydd â’r cyfran uchaf o ddisgyblion yng nghyfnod allweddol 4 sy’n astudio Cymraeg mamiaith, gostyngodd nifer y disgyblion sy’n dewis y llwybr hwn gan ryw un o bob pum disgybl rhwng cyfnodau allweddol 2 a 4.

“Mae angen annog mwy o ddisgyblion i barhau â’u hastudiaethau yn Gymraeg wrth iddynt fynd i ysgol uwchradd ac mae angen rhoi gwybod iddynt am y manteision y gall astudio yn Gymraeg eu dwyn iddynt.”

Mae nifer o ddisgyblion a astudiodd Cymraeg mamiaith yn yr ysgol gynradd yn rhoi’r gorau i astudio Cymraeg mamiaith yn yr ysgol uwchradd neu ddewis astudio pynciau eraill trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r disgyblion hyn a’u rhieni yn aml yn gwneud y dewisiadau hyn heb ystyried manteision parhau â’u hastudiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae un o’r astudiaethau achos arfer orau yn yr adroddiad yn amlygu sut mae Ysgol Bodedern, Ynys Môn, wedi cyflwyno polisi i gynyddu nifer y disgyblion sy’n dilyn cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae disgyblion yn dilyn o leiaf ddau bwnc yn Gymraeg ac maent yn ymwybodol o fanteision cael addysg ddwyieithog.

Mae’r adroddiad yn cynnwys argymhellion i ysgolion, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru. Dylai ysgolion osod targedau i gynyddu nifer y disgyblion sy’n parhau i astudio Cymraeg ac ehangu ystod y cymwysterau sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg. Dylai awdurdodau lleol olrhain cyfran y disgyblion sy’n dilyn cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg a dylai Llywodraeth Cymru godi ymwybyddiaeth o fanteision dwyieithrwydd a pharhau i astudio pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Nodiadau i Olygyddion

Ynglŷn â Dilyniant ieithyddol a safonau Cymraeg mewn deg ysgol ddwyieithog

Mae’r adroddiad hwn yn ymateb i gais am gyngor yn llythyr cylch gwaith 2013-2014 y Gweinidog Addysg a Sgiliau i Estyn. Diben yr adroddiad yw:

  • adrodd ar ddilyniant ieithyddol disgyblion yng nghyfnod allweddol 4 o ran astudio Cymraeg mamiaith a chymwysterau eraill trwy gyfrwng y Gymraeg;
  • arfarnu effeithiolrwydd y modelau cwricwlaidd a’r dulliau addysgu sydd ar waith mewn ysgolion dwyieithog; a
  • nodi a rhannu arfer dda o ran addysg ddwyieithog.

Mae’r adroddiad ar gael yn llawn yma.

Astudiaethau achos arfer dda

  • Ysgol Gyfun Bodedern, Ynys Môn
  • Ysgol David Hughes, Ynys Môn
  • Ysgol Gyfun Llangefni, Ynys Môn
  • Ysgol Gyfun Aberteifi, Ceredigion
  • Ysgol Gyfun Bro Pedr, Ceredigion
  • Ysgol y Moelwyn, Gwynedd
  • Awdurdod Lleol Gwynedd

Ynglŷn ag Estyn

Estyn yw Arolygiaeth Addysg a Hyfforddiant Cymru. Ein nod yw cyflawni rhagoriaeth mewn dysgu i bawb yng Nghymru. Gwnawn hyn trwy ddarparu gwasanaeth arolygu a chyngor annibynnol, o ansawdd uchel.

Ein gweledigaeth yw cael ein cydnabod trwy arbenigedd ein staff fel llais awdurdodol ar ddysgu yng Nghymru.

Rydym yn annibynnol ar, ond yn cael ein hariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru (o dan Adran 104 Deddf Llywodraeth Cymru 1998).

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n gwefan, sef www.estyn.gov.uk