Mae gan ddisgyblion agwedd gadarnhaol tuag at wersi addysg grefyddol

Erthygl

Mae’r adroddiad, ‘Addysg grefyddol yng nghyfnod allweddol 2 a chyfnod allweddol 3’ yn arfarnu’r safonau, y ddarpariaeth a’r arweinyddiaeth mewn addysg grefyddol mewn ysgolion.  Hefyd, mae’n bwrw golwg ar agweddau disgyblion tuag at ddysgu am addysg grefyddol, pa mor dda caiff y cwricwlwm ei gynllunio a pha mor dda y caiff ei addysgu, ei arwain a’i asesu.  

Meddai Meilyr Rowlands, y Prif Arolygydd,

Dylai addysg grefyddol annog disgyblion i archwilio amrywiaeth o gwestiynau mewn ffordd fyfyriol, ddadansoddol a chytbwys.  Dylai disgyblion gael cyfleoedd i ystyried agweddau fel chwiliad y ddynoliaeth am ystyr.

Rydym wedi darganfod bod mwyafrif y disgyblion 11 i 14 oed yn deall sut mae addysg grefyddol yn eu cynorthwyo i ddatblygu’n ddinasyddion byd-eang gwybodus ac yn teimlo bod hyn yn eu helpu i gyfrannu’n dda yn eu cymuned leol.  Mae astudiaethau achos yn yr adroddiad yn amlinellu arfer dda i ysgolion ei defnyddio.

Mae’r adroddiad yn amlygu Ysgol Gyfun Dŵr-y-Felin yng Nghastell-nedd Port Talbot, lle datblygodd athrawon ddiddordeb disgyblion trwy brosiect lle ymchwiliwyd i bobl â chefndir crefyddol, gan ddefnyddio thema ‘Arwyr a Dihirod’.  Bu disgyblion yn cydweithio, gan ehangu eu medrau arfarnol a dadansoddol.  O ganlyniad, roedd gan ddisgyblion lefelau uchel o gymhelliad, brwdfrydedd ac ymgysylltiad trwy gydol y tymor.

Argymhellodd arolygwyr y dylai ysgolion sicrhau bod disgyblion mwy abl yn cyflawni safonau addysg grefyddol yn unol â’u gallu, a chryfhau’r trefniadau pontio rhwng cyfnod allweddol 2 a chyfnod allweddol 3 i osgoi ailadrodd gwaith.  Yn ogystal, dylai ysgolion arfarnu eu cwricwlwm ar gyfer addysg grefyddol i baratoi ar gyfer datblygu a gweithredu Maes Dysgu a Phrofiad newydd y Dyniaethau, fel rhan o’r cwricwlwm newydd i Gymru.