Mae cydweithio a chymorth gan gyfoedion yn helpu’r sector ysgolion pob oed
Mae nifer y disgyblion sy’n cael eu haddysgu mewn ysgolion pob oed wedi mwy na dyblu er 2017, ac mae awdurdodau lleol ac arweinwyr ysgolion wedi goresgyn heriau a rhwystrau penodol i sefydlu ysgolion newydd yn llwyddiannus. Fodd bynnag, yn ôl adroddiad a gyhoeddir heddiw gan Estyn, ni chaiff y sector hwn sy’n tyfu ei gydnabod yn ddigon fel sector ar wahân.
Mae Estyn yn argymell y dylid cymhwyso’r dysgu a enillwyd trwy eu cyflwyno’n llwyddiannus i greu canllawiau cenedlaethol ar gyfer ysgolion pob oed. Byddai hyn yn cefnogi eu sefydlu yn well, yn lleihau dyblygu ac yn cryfhau eu heffaith ar ddisgyblion a’r gymuned. Ar hyn o bryd, mae ysgolion pob oed yn cefnogi ei gilydd yn dda trwy rwydwaith cenedlaethol i rannu heriau ac arfer orau.
Dywed y Cyfarwyddwr Strategol, Claire Morgan,
Mae ysgolion pob oed yn fwyaf llwyddiannus pan fyddan nhw’n cynnwys y gymuned yn llawn wrth eu sefydlu. Yn yr ysgolion hyn, mae arweinwyr a’r awdurdod lleol yn rhannu’r manteision gyda rhieni, staff a llywodraethwyr, ac yn rhoi gwybodaeth reolaidd iddyn nhw am gynlluniau ad-drefnu.
Gan mai ers ychydig o flynyddoedd yn unig y mae llawer o’r ysgolion hyn wedi eu sefydlu, mae’n anodd gwerthuso’u heffaith lawn. Ar sail y canlyniadau arolygu sydd gennym, mae’r darlun yn un amrywiol, gyda lles ac agweddau at ddysgu yn un o gryfderau arbennig y sector.
Mae Ysgol Llanhari, Rhondda Cynon Taf, wedi’i chynnwys yn yr adroddiad. Ehangwyd yr ysgol i gynnig addysg i ddisgyblion rhwng 3 ac 19 oed, ac mae ganddi ryw 700 o ddisgyblion. Mae’r ysgol wedi datblygu profiadau dysgu yn greadigol, gan ganolbwyntio’n gryf ar y Cwricwlwm i Gymru. Mae disgyblion yn mwynhau perchnogi a dylanwadu ar eu dysgu, sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar eu lles a’u hymddygiad. Mae staff yn fwy hyderus hefyd i rannu arbenigedd ac arddel eu dysgu proffesiynol eu hunain.
Gall mwy o enghreifftiau ac argymhellion yn yr adroddiad helpu cefnogi ysgolion pob oed eraill, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru i oresgyn heriau yn y sector a dysgu oddi wrth lwyddiannau.