Mae arweinyddiaeth gref a disgwyliadau uchel yn helpu meithrin a herio disgyblion sy’n fwy abl a thalentog
Mae adroddiad Estyn, ‘Cynorthwyo disgyblion mwy abl a thalentog’ yn amlinellu’r modd y mae addysgu hynod effeithiol, partneriaethau allanol cryf a chyfleoedd i ddisgyblion ddysgu’n annibynnol yn galluogi ysgolion i ymestyn eu disgyblion mwy abl a thalentog yn llwyddiannus.
Dywed Meilyr Rowlands, Prif Arolygydd,
Mae disgyblion ym mhob ysgol yng Nghymru sydd â galluoedd neu fedrau academaidd eithriadol o dda. Gallai rhai disgyblion ddangos dawn mewn meysydd fel celf, cerddoriaeth, drama neu chwaraeon, tra gallai disgyblion eraill ddangos medrau arwain, gwaith tîm neu entrepreneuraidd rhagorol. Rhaid i ysgolion ddarparu cyfleoedd estynedig ar draws y cwricwlwm i’r disgyblion mwy abl a thalentog hyn gyflawni eu llawn botensial.
Mae adroddiad heddiw yn defnyddio astudiaethau achos i arddangos dulliau arloesol o ysgogi a herio meddyliau ifanc o bob gallu.
Mae’r adroddiad yn amlygu Ysgol y Preseli a ddefnyddiodd arweiniad gan y Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer Plant Abl mewn Addysg i ddatblygu dull cyson ar draws yr ysgol o fodloni anghenion ei disgyblion mwy abl a thalentog. Mae creu rhaglen mentora disgyblion ar gyfer disgyblion mwy abl yng nghyfnod allweddol 3 yn eu cynorthwyo i ddatblygu eu medrau cymdeithasol ac academaidd. Mae’r dull hwn wedi cael effaith gref ar ddeilliannau disgyblion ers ei gyflwyno yn 2013.
Yn ogystal â nodi arfer effeithiol ac arloesol, mae’r adroddiad hefyd yn amlinellu rôl bosibl awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol o ran darparu hyfforddiant ac arweiniad addas i alluogi ysgolion i fodloni anghenion disgyblion mwy abl a thalentog.
Astudiaethau achos
- Evenlode Primary School, Bro Morgannwg
- Langstone Primary School, Casnewydd
- Treorchy Comprehensive School, Rhondda Cynon Taf
- St Joseph’s RC High School, Casnewydd
- Ysgol y Preseli, Sir Benfro
- Llandrillo yn Rhos Primary School, Conwy