Erthyglau newyddion |

Mae angen strategaeth genedlaethol i wella addysg a hyfforddiant ôl-16 yng Nghymru, meddai Estyn

Share this page

Mae adroddiad newydd yn amlygu gwahaniaethau sylweddol mewn opsiynau dysgu ôl-16 sydd ar gael i’r rhai 16 oed. Caiff y rhain eu dylanwadu gan leoliad dysgwyr, eu dewis iaith a’u cyrhaeddiad addysgol blaenorol.

Mae canfyddiadau Estyn yn awgrymu bod angen i strwythurau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol fynd i’r afael â’r anghysondebau rhwng o fewn ardaloedd daearyddol gwahanol a darparwyr addysg a hyfforddiant o ran y cwricwlwm sy’n cael ei gynnig i’r rhai 16 i 19 oed yng Nghymru.

Mae’r adroddiad newydd yn galw i bob cwricwlwm lleol gynnwys amrywiaeth addas o opsiynau dysgu i fodloni anghenion dysgwyr ôl-16. Mae’r canfyddiadau’n argymell datblygu cyfres fwy cydlynol o gymwysterau sy’n cynnwys cyfleoedd dilyniant o lefel mynediad i lefel 3 a thu hwnt. Mae angen gwneud mwy o waith i sicrhau y caiff opsiynau addysg galwedigaethol eu gwerthfawrogi cymaint â chymwysterau cyffredinol.

Mae’r adroddiad hefyd yn argymell y dylai pob dysgwr 14 i 16 oed gael gwybodaeth, cyngor ac arweiniad diduedd fel eu bod yn gwybod am yr holl opsiynau ôl-16 yn eu hardal leol. Mae Estyn yn amlygu bod gormod o ddysgwyr nad ydynt yn ymwybodol o gyfleoedd dysgu yn y gwaith, fel prentisiaethau.

Mae angen i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg allu manteisio ar ystod ehangach o gyrsiau. Mae’r adroddiad yn awgrymu y gellid rhoi gwaith cydweithredol sy’n cael ei ddefnyddio mewn rhai dosbarthiadau chweched a cholegau, fel cyfuno grwpiau addysgu neu ddefnyddio argaeledd athrawon yn effeithiol, ar waith mewn dosbarthiadau chweched a cholegau addysg bellach eraill i sicrhau mwy o addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Dywedodd Owen Evans, Prif Arolygydd Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru:

“Daw ein canfyddiadau ar adeg pan mae strategaeth glir yn cael ei dilyn i ddysgwyr hyd at 16 oed trwy’r Cwricwlwm i Gymru newydd. Mae’r adroddiad newydd hwn yn dangos bod angen gwneud mwy o waith i sicrhau bod opsiynau dysgu i’r rhai 16 i 19 oed yng Nghymru yn fwy diduedd. Mae’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd yn cydnabod bod angen dull mwy cyfunol ar draws gwasanaethau ôl-16.”

"Rydym yn gobeithio y bydd yr adroddiad a’i argymhellion yn helpu i gynorthwyo Llywodraeth Cymru â’i gwaith â’r Comisiwn a chyrff eraill, fel Cymwysterau Cymru a Gyrfa Cymru, i ddatblygu dull mwy cydlynol ar gyfer addysg a hyfforddiant ôl-16.”