Mae angen i ysgolion uwchradd godi safonau mewn mathemateg
Mae Arfer dda mewn mathemateg yng nghyfnod allweddol 4 yn tynnu sylw at yr heriau a wynebir wrth godi safonau mewn mathemateg ledled Cymru, ac mae’n cynnwys astudiaethau achos o arfer orau mewn ysgolion uwchradd.
Dywed Ann Keane, y Prif Arolygydd,
“Mae llawer o gyflogwyr Cymru yn pryderu ynglŷn â’r diffyg medrau mathemategol a ddangosir gan gyflogeion. Dengys ymchwil fod rhyw 44% o gyflogwyr wedi gorfod buddsoddi mewn hyfforddiant medrau rhifedd ar gyfer y rhai sy’n gadael yr ysgol a’r coleg (Building for Growth: business priorities for education and skills, Education and skills survey 2011). Fe wnaeth canlyniadau PISA yn 2009 hefyd gadarnhau bod cyrhaeddiad yng Nghymru gryn dipyn y tu ôl i weddill y DU mewn mathemateg.
“Er bod safonau mewn mathemateg yn siomedig, mae’n galonogol gweld pocedi o arfer dda yn ein hysgolion uwchradd. Gydag addysgu a chynllunio da, gall ysgolion helpu disgyblion i gyflawni’u potensial llawn.
“Rwyf yn annog pob athro a phob pennaeth i ddarllen ein hadroddiad a’r astudiaethau achos, fel rhan o’u hymdrech i godi safonau a gwella addysgu mathemateg.”
Mae un o’r astudiaethau achos yn yr adroddiad yn tynnu sylw at yr arfer dda yn Ysgol Gyfun Esgob Gore, Abertawe, lle llwyddodd 20% o ddisgyblion i ennill graddau A * neu A mewn TGAU mathemateg yn 2012. Gosodir graddau targed i ymgyrraedd atynt i ddisgyblion ar draws yr holl bynciau, ac adolygir eu cynnydd deirgwaith y flwyddyn gan uwch arweinwyr a rhieni/gwarcheidwaid. O ganlyniad, gellir nodi a mynd i’r afael â thangyflawni yn gynnar. Mae’r ysgol 15 pwynt canran o flaen ysgolion eraill yn ei theulu ar gyfer cyrhaeddiad ar radd C ac uwch mewn mathemateg.
Mae’r adroddiad yn tynnu sylw hefyd at yr heriau penodol o ran codi safonau mathemateg mewn ysgolion ledled Cymru. Daw’r arolygwyr i’r casgliad fod diffyg cefnogaeth i ddatblygiad proffesiynol mathemateg athrawon, boed o ysgolion eraill, awdurdodau lleol neu gonsortia rhanbarthol. Mae’r adroddiad yn argymell bod mwy o gymorth, cyngor a chyfleoedd datblygiad proffesiynol yn cael eu darparu i ysgolion.
Mae adroddiad Estyn yn cynnwys cyfres o argymhellion pellach i ysgolion, yn ymwneud ag ansawdd addysgu a dysgu, defnyddio asesu i fonitro cynnydd disgyblion ac arfer orau.
Nodiadau i Olygyddion:
Ynglŷn â’r adroddiad
- Cafodd adroddiad Estyn Arfer dda mewn mathemateg yng nghyfnod allweddol 4 ei gomisiynu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac mae ar gael yn llawn yma.
- Mae’r canfyddiadau a’r argymhellion yn yr adroddiad yn defnyddio gwybodaeth o ymweliadau ag 18 o ysgolion uwchradd. Roedd gan yr ysgolion a ddewiswyd ar gyfer yr arolwg ganlyniadau cadarn mewn mathemateg. Mae’r sampl yn ystyried lleoliad daearyddol, cefndir economaidd-gymdeithasol, maint yr ysgol a chyd-destun ieithyddol. Yn ystod yr ymweliadau hyn, fe wnaeth yr Arolygwyr:
- arsylwi gwersi yng nghyfnod allweddol 4;
- adolygu llyfrau a dogfennaeth adrannau;
- cyfarfod â grwpiau cynrychioliadol o ddisgyblion; a
- chynnal trafodaethau gydag arweinwyr canol ac uwch arweinwyr.
- Cafwyd tystiolaeth ychwanegol o’r canlynol:
- Canlyniadau TGAU ar ddiwedd cyfnod allweddol 4, asesiadau athrawon y Cwricwlwm Cenedlaethol yng nghyfnod allweddol 3; ac
- adolygiad o’r Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfer mathemateg yng nghyfnod allweddol 3.
Astudiaethau achos:
- Ysgol Gyfun Porthcawl, Pen-y-bont ar Ogwr
- Ysgol Uwchradd Llanisien, Caerdydd
- Ysgol Uwchradd Radur, Caerdydd
- Ysgol Bryngwyn, Sir Gaerfyrddin
- Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin, Sir Gaerfyrddin
- Ysgol Eirias, Conwy
- Ysgol Uwchradd Dyffryn, Casnewydd
- Ysgol Gyfun Treorci, RhCT
- Ysgol Gyfun Esgob Gore, Abertawe
- Ysgol Gymunedol Cefn Hengoed, Abertawe
Gwybodaeth am Estyn
Estyn yw’r Arolygiaeth Addysg a Hyfforddiant ar gyfer Cymru. Ein nod yw cyflawni rhagoriaeth i bawb mewn dysgu yng Nghymru. Rydym yn gwneud hyn trwy ddarparu gwasanaeth arolygu a chyngor annibynnol, o ansawdd uchel.
Ein gweledigaeth yw cael ein cydnabod trwy arbenigedd ein staff fel llais awdurdodol ar ddysgu yng Nghymru.
Rydym yn annibynnol ar Lywodraeth Cynulliad Cymru ond cawn ein hariannu ganddi (o dan Adran 104 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998).
Am ragor o wybodaeth ewch i’n gwefan www.estyn.gov.uk