Mae angen i ysgolion a cholegau baratoi myfyrwyr Safon Uwch yn well i fod yn ddysgwyr annibynnol - Estyn

Mae angen i ysgolion a cholegau baratoi myfyrwyr Safon Uwch yn well i fod yn ddysgwyr annibynnol

Erthygl

Yn yr adroddiad, ‘Cyrsiau Safon Uwch mewn dosbarthiadau chwech a cholegau addysg bellach’ mae Estyn yn arfarnu’r safonau, ansawdd yr addysgu ac arweinyddiaeth cyrsiau Safon Uwch mewn dosbarthiadau chwech ysgolion a cholegau addysg bellach.  Mae’r adroddiad yn amlygu sut gall ysgolion a cholegau baratoi myfyrwyr yn well ar gyfer Safon Uwch, yn ystyried y cwricwlwm ac yn cynnwys astudiaethau achos arfer orau.

Dywed Meilyr Rowlands, y Prif Arolygydd,

Mae angen dyfalbarhad a chymhelliant ar ddysgwyr i wneud yn dda yn eu hastudiaethau Safon Uwch.  Mae athrawon Safon Uwch llwyddiannus yn cynorthwyo ac yn annog myfyrwyr i ddatblygu eu medrau dysgu’n annibynnol yn arbennig o dda.  Hefyd, maen nhw’n dangos brwdfrydedd dros y pwnc, gwybodaeth bynciol gadarn, a dealltwriaeth drylwyr o ofynion arholiadauTrwy ddatblygu’r medrau hyn cyn iddynt ddechrau dilyn cyrsiau Safon Uwch, bydd myfyrwyr wedi’u paratoi’n well, ac yn gwella eu cyfle i lwyddo.

Mae’r adroddiad yn nodi mai prin yw’r cyfleoedd i athrawon mewn dosbarthiadau chwech a cholegau weithio gyda’i gilydd mewn rhwydweithiau i ddatblygu eu harfer broffesiynol, rhannu adnoddau a chefnogi addysgu Safon Uwch.  Mae un astudiaeth achos yn yr adroddiad yn disgrifio’r modd y bu cydweithio llwyddiannus mewn un ardal leol.  Mae partneriaethau effeithiol rhwng ysgolion a cholegau yn ardaloedd Conwy ac Arfon wedi cynyddu’r ystod a’r dewis o ran opsiynau sydd ar gael i ddysgwyr yn Gymraeg a Saesneg.  Trwy weithio gyda’i gilydd, mae’r ysgolion a’r colegau yn arfarnu ac yn adolygu llwyddiant y cyrsiau a gynigir, yn rhannu arfer orau ac yn newid neu’n atal cyrsiau sy’n tanberfformio.

Mae’r adroddiad yn nodi bod lle o hyd i wella canlyniadau Safon Uwch, ac mae’n amlinellu nifer o argymhellion ar gyfer sefydliadau allweddol.  Gall ysgolion a cholegau wneud mwy i wella’r cyngor a’r arweiniad cynnar a roddir i ddysgwyr am ystod y cymwysterau a gynigir ar ôl 16 oed i gynorthwyo dysgwyr i ddewis y cwrs sy’n gweddu orau i’w diddordebau a’u huchelgeisiau gyrfa.  Hefyd, mae’n argymell y dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol weithio gyda dosbarthiadau chwech i’w helpu i arfarnu eu heffeithiolrwydd wrth gyflwyno cyrsiau Safon Uwch.