Mae angen i golegau ddefnyddio arsylwi addysgu a dysgu yn fwy effeithiol er mwyn gwella safonau dysgwyr - Estyn

Mae angen i golegau ddefnyddio arsylwi addysgu a dysgu yn fwy effeithiol er mwyn gwella safonau dysgwyr

Erthygl

Mae adroddiad Estyn, ‘Arsylwi addysgu a dysgu yn effeithiol mewn colegau addysg bellach, yn canolbwyntio ar y modd y mae colegau yn defnyddio arsylwi yn effeithiol i wella safonau cyflawniad ar gyfer dysgwyr.  Mae hefyd yn cynnwys astudiaethau achos o arfer orau.

Dywed Meilyr Rowlands, y Prif Arolygydd:

Caiff ansawdd yr addysgu effaith uniongyrchol ar y safonau y mae dysgwyr yn eu cyflawni.  Gall arsylwi addysgu a dysgu fod yn gyfrwng effeithiol i wella safonau mewn colegau ac o ran sefydlu diwylliant o wella a hunanarfarnu sydd o fudd i athrawon a dysgwyr. 

 

“Mae sefydliadau mawr fel colegau addysg bellach yn wynebu’r her o sut i sicrhau bod addysgu ar draws y coleg yn gyson dda.  Yn sgil colegau’n uno yn ddiweddar, dim ond cynyddu a wnaeth yr her hon.  Rwy’n annog arweinwyr, rheolwyr a staff mewn colegau AB i ddarllen yr astudiaethau achos o arfer orau yn yr adroddiad hwn fel bod arfer effeithiol yn cael ei mabwysiadu’n ehangach.”

Mae polisïau addysgu a dysgu ar waith gan bob coleg, er mai dim ond lleiafrif sy’n amlinellu’r dibenion, y gweithdrefnau a disgwyliadau yn glir ar gyfer arsylwadau o addysgu a dysgu.  Mae hyn yn golygu, mewn ychydig o achosion, nad yw staff sy’n cael eu harsylwi a’r sawl sy’n arsylwi yn gwbl glir ynghylch beth a ddisgwylir ganddynt fel rhan o’r broses arsylwi.

Gall arsylwi gael ei ddefnyddio mewn llawer o ffyrdd.  Mae bron pob coleg yn defnyddio arolygiadau mewnol at ddiben hunanarfarnu.  Pan ddefnyddir arsylwadau fel rhan o fentora, nid yw mentoriaid yn defnyddio arsylwadau wedi’u graddio ond yn hytrach yn canolbwyntio ar gynnydd a meysydd i’w gwella.  Mae pob coleg hefyd yn defnyddio arsylwi cymheiriaid anffurfiol, er mai dim ond lleiafrif sy’n gwireddu budd posibl hyn. 

Un enghraifft effeithiol o arsylwadau cymheiriaid heb eu graddio yw’r defnydd o “arsylwadau datblygu athrawon” yng Ngholeg Gwent.  Mae’r rhain yn arsylwadau cymheiriaid heb eu graddio gan athrawon sy’n dymuno datblygu eu harfer eu hunain trwy weld arfer dda gan athro arall.  Trwy gofnodi’u harsylwadau, gallant fyfyrio a dysgu ar y pwyntiau datblygu addysgu a nodwyd.

Mae bron pob un o’r colegau yr ymwelodd Estyn â nhw ar gyfer yr adroddiad yn defnyddio ffurflenni arsylwi sy’n galluogi’r arsylwr i ysgrifennu sylwadau arfarnol.  Fodd bynnag, mae ychydig iawn o golegau yn defnyddio dull ‘ticio blwch’ syml sy’n cyfyngu arsylwadau ac yn cynnig fawr ddim sylwebaeth.  Mae bron pob un o’r ffurflenni arsylwi graddedig yn cynnwys graddau ar wahân ar gyfer addysgu a dysgu, ac mae hyn yn helpu arsylwyr i ganolbwyntio ar y cynnydd a wneir gan ddysgwyr a pha mor dda y mae strategaethau addysgu yn hyrwyddo dysgu.  Mewn ychydig iawn o achosion, nid yw arsylwadau yn rhoi digon o ystyriaeth i gynnydd dysgwyr.

Mae’r adroddiad yn cynnwys nifer o argymhellion, gan gynnwys y dylai colegau sefydlu diwylliant o wella, hunanarfarnu a dysgu proffesiynol.  Dylent hefyd ddatblygu polisïau clir ar gyfer arsylwi addysgu a dysgu y mae pob aelod o staff yn eu deall, trefnu cyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol staff, a gweithio ar y cyd â cholegau eraill i wella cysondeb arsylwadau a rhannu arfer dda.  Dylai ColegauCymru weithio gyda cholegau a Llywodraeth Cymru i hyrwyddo cymunedau dysgu proffesiynol.  Yn olaf, mae’n argymell bod Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo cyfleoedd fel Cronfa Gwella Ansawdd i gynorthwyo colegau. 

Nodiadau i Olygyddion:

Ynglŷn â’r adroddiad

  • Cafodd adroddiad Estyn Arsylwi addysgu a dysgu yn effeithiol mewn colegau addysg bellach ei gomisiynu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac mae ar gael yn llawn yn https://www.estyn.gov.wales/english/thematic-reports/recent-reports/

  • Mae sail dystiolaeth yr adroddiad yn cynnwys:

    • Ymweliadau â’r colegau canlynol:

    • Coleg Pen-y-bont ar Ogwr

    • Coleg Cambria

    • Coleg Gwent

    • Coleg Sir Gâr

    • Coleg Gŵyr Abertawe

    • Grŵp Llandrillo Menai

    • Grŵp NPTC

    • Coleg Sir Benfro

    • Coleg Catholig Dewi Sant

    • Y Coleg, Merthyr Tudful

  • Ym mhob coleg, cyfarfu arolygwyr ag uwch reolwyr a rheolwyr a oedd yn gyfrifol am y rhaglen arsylwi addysgu a dysgu, mentoriaid, athrawon a nodwyd fel ymarferwyr rhagorol ac athrawon y nodwyd bod angen eu datblygu.

  • Fe wnaeth arolygwyr hefyd fynychu cyfarfodydd o rwydweithiau Rheolwyr Addysgu a Dysgu ac Ansawdd ColegauCymru a chymryd rhan mewn trafodaethau e-bost gyda Choleg Ceredigion.

  • Mae’r adroddiad yn cynnwys astudiaethau achos ar y canlynol:

    • Coleg Cambria, Wrecsam
    • Grŵp Llandrillo Menai, Conwy
    • Coleg Gwent, Casnewydd, Torfaen, Mynwy, Blaenau Gwent a Chaerffili
    • Grŵp NPTC, Castell-nedd Port Talbot
    • Coleg Sir Gâr, Sir Gaerfyrddin
    • Coleg Sir Benfro, Sir Benfro
    • Coleg Ceredigion, Ceredigion