Mae angen ffocws cryfach mewn ysgolion i wella addysgu am hanes a diwylliant Cymru a lleiafrifoedd ethnig

Erthygl

Yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Estyn, mae angen i ysgolion cynradd, uwchradd ac unedau cyfeirio disgyblion gynnig mwy o gyfleoedd i ddisgyblion ddysgu am hanes a diwylliant lleol, Cymru a Phobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, gan gynnwys sut mae cymunedau gwahanol wedi cyfrannu at Gymru a’r byd. 

Er bod enghreifftiau o arfer dda yn cael eu rhannu yn yr adroddiad, mae’r dystiolaeth a gasglwyd o sampl o ysgolion yn dangos nad oes gan fwyafrif o ddisgyblion lawer o wybodaeth am y digwyddiadau hanesyddol sydd wedi ffurfio eu hardal leol. Nid ydynt yn creu cysylltiadau rhwng unigolion a digwyddiadau yn hanes Cymru â hanes byd-eang, ac mae angen mwy o gefnogaeth a dysgu proffesiynol ar athrawon. 

Canfu arolygwyr fod ysgolion mewn ardaloedd amlethnig yn rhoi blaenoriaeth i addysgu am hanes unigolion a chymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn fwy nag ysgolion mewn ardaloedd eraill. Lle caiff yr agwedd hon ei chynllunio’n dda, mae addysgu’n canolbwyntio ar ddatblygu dealltwriaeth disgyblion o hanes lleol, hanes Cymru a hanes rhyngwladol o safbwyntiau amryfal. Fodd bynnag, yn y rhan fwyaf o ysgolion, mae gan ddisgyblion wybodaeth a dealltwriaeth gyfyngedig o’r pynciau hyn.

Dywed y Prif Arolygydd, Claire Morgan, ‘Adnewyddodd y mudiad Mae Bywydau Du o Bwys y ffocws ar addysg wrth-hiliaeth ac addysgu am hanes a diwylliant Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Mae ein hadolygiad yn edrych ar sut mae amrywiaeth yn cael ei haddysgu mewn ysgolion yng Nghymru. Er bod arweinwyr ysgolion yn cydnabod y cyfleoedd a ddaw yn sgil y Cwricwlwm i Gymru, mae’n amlwg bod angen gwneud mwy i sicrhau bod addysgu a dysgu’n cynrychioli holl gymunedau Cymru a’u cysylltiadau rhyngwladol. 

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn rhoi mwy o gefnogaeth i helpu ysgolion i ddatblygu hyfforddiant ac adnoddau i greu cwricwlwm sy’n adlewyrchu diwylliant, amgylchedd a hanes Cymru.

Mae astudiaethau achos yn yr adroddiad yn amlygu, pan gânt y cyfle i wneud hynny, bod disgyblion yn mwynhau dysgu am hanes, hunaniaeth a diwylliant lleol a Chymru, a chyfraniad unigolion o leiafrifoedd ethnig i hanes. 

Yn Ysgol Gynradd Pilgwenlli, Casnewydd, mae prosiectau yn yr ardal leol yn helpu disgyblion i gydnabod y gymdeithas amrywiol maent yn byw ynddi, a deall y gall hunaniaethau Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, a hunaniaethau Cymreig, ymblethu â’i gilydd.

Mae arweinwyr yn Ysgol Stanwell, Bro Morgannwg, yn ystyried pa mor dda mae’r ysgol yn cynrychioli ac yn cynnwys profiadau unigolion a chymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ar draws y cwricwlwm. Mae hyn yn codi ymwybyddiaeth athrawon o bwysigrwydd cynrychiolaeth a chynhwysiant wrth iddynt gynllunio’r cwricwlwm. Mae adrannau’n datblygu cyfleoedd i ddisgyblion astudio pynciau fel rhagfarn ac ymfudo, a chyfraniad cymunedau lleiafrifoedd ethnig i hanes.

Mae’r adroddiad yn argymell y byddai athrawon yn elwa ar mwy o gyfleoedd dysgu proffesiynol yn ymwneud ag addysgu am amrywiaeth, gwrth-hiliaeth, a hanes a diwylliant lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru. Dylid rhoi mwy o flaenoriaeth i ddatblygu hyfforddiant ac adnoddau yn ymwneud â’r pynciau hyn.