Mae angen cydlynu’r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol yn well - Estyn

Mae angen cydlynu’r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol yn well

Erthygl

Mae adroddiad Estyn ‘Addysg Heblaw yn yr Ysgol: arolwg arfer dda’ yn canolbwyntio ar arfer dda mewn UCDau, ysgolion ac awdurdodau lleol. Mae hyn yn cynnwys mynd ati’n gynnar i nodi disgyblion sydd mewn perygl o ymddieithrio ac ymyrraeth brydlon. Mae’r UCDau yr ymwelwyd â nhw fel rhan o’r arolwg yn darparu’n bennaf ar gyfer disgyblion ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol, problemau iechyd meddwl, pryder neu broblemau presenoldeb.

Dywed Meilyr Rowlands, y Prif Arolygydd:

“Er ein bod ni wedi gweld arfer dda mewn UCDau, mae angen i bob un o’r rhanddeiliaid wneud mwy o hyd i wneud yn siŵr bod strategaethau effeithiol ar waith i helpu disgyblion sy’n agored i niwed mewn lleoliadau ysgol a thu allan iddynt. 

“Mae darpariaeth addysg ar draws y sector UCDau yn anghyson, ond mae’r enghreifftiau o arfer dda yn yr adroddiad heddiw o UCDau, ysgolion ac awdurdodau lleol, yn gallu cael eu defnyddio i helpu i wella deilliannau ar gyfer disgyblion”.

Mae staff yn y rhan fwyaf o’r UCDau yr ymwelwyd â nhw fel rhan o’r arolwg hwn yn elwa ar y cyfleoedd datblygu proffesiynol sydd ar gael i’w cydweithwyr mewn ysgolion prif ffrwd. Mae hyn yn eu galluogi i ddilyn hynt a helynt datblygiadau pwysig, er enghraifft newidiadau i’r cwricwlwm a’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd. Fodd bynnag, pan nad yw staff UCD yn cael y cyfleoedd hyn, maent yn teimlo eu bod ar eu pen eu hunain a heb gefnogaeth. Ar draws y consortia rhanbarthol, nid oes trefniadau cyson i gynnwys UCDau mewn gweithgareddau cymorth a her.

Yn yr achosion gorau, mae’r UCD yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer addysgu disgyblion ag ymddygiad heriol. Yn yr achosion hyn, mae awdurdodau lleol yn defnyddio arbenigedd staff UCD i ddarparu cymorth i ddisgyblion unigol mewn ysgolion prif ffrwd, yn ogystal â chyngor a hyfforddiant ar gyfer staff prif ffrwd.

Yng nghyfnodau allweddol 3 a 4, mae ystod y pynciau a gynigir mewn UCDau yn amrywio’n sylweddol. Mae ystod yr opsiynau ac elfen o ddewis yn ffactorau pwysig o ran ymgysylltu â disgyblion sydd wedi colli diddordeb mewn addysg yn y gorffennol. Ar eu pen eu hunain, mae UCDau yn annhebygol o allu cynnig cynifer o opsiynau ag y gall ysgolion. I gynyddu ystod yr opsiynau sydd ar gael, mae rhai UCDau yn cysylltu’n dda â darparwyr eraill. Mewn rhai achosion, mae awdurdodau lleol yn gweithio gyda’i gilydd i ymestyn cyfleoedd y cwricwlwm ar gyfer disgyblion UCDau.

Mae angen i awdurdodau lleol fabwysiadu dull strategol mewn perthynas â disgyblion sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol. Daethpwyd o hyd i enghraifft o arfer dda yng Ngheredigion lle cynhaliodd yr awdurdod lleol adolygiad cynhwysfawr o ddarpariaeth i ddisgyblion ag ymddygiad heriol. Arweiniodd hyn at ddatblygu continwwm darpariaeth, gan gynnwys ymyrraeth yn yr ysgol, gwasanaeth cymorth ymddygiad a gyflogir yn ganolog, a darpariaeth UCD. Ers yr adolygiad chwe blynedd yn ôl, ni fu unrhyw waharddiadau parhaol mewn ysgolion ac mae nifer y gwaharddiadau cyfnod penodol o chwe diwrnod neu fwy wedi lleihau’n sylweddol. Y gyfradd presenoldeb mewn ysgolion uwchradd yng Ngheredigion fu’r uchaf yng Nghymru ar gyfer y pedair blynedd ddiwethaf.

Mae’r adroddiad yn argymell y dylai ysgolion, UCDau ac awdurdodau lleol weithio gyda’i gilydd i gyflwyno strategaeth gytûn i gynorthwyo pob disgybl sy’n agored i niwed, nodi disgyblion sydd mewn perygl o ymddieithrio ac ymyrryd yn briodol. Dylai awdurdodau lleol sicrhau bod gan yr holl randdeiliaid ddealltwriaeth glir o rôl darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol, penodi staff UCD sydd ag arbenigedd priodol a sicrhau bod holl staff UCDau yn cael hyfforddiant a datblygiad priodol. Yn olaf, dylai Llywodraeth Cymru ddarparu arweiniad ar rôl darpariaeth UCDau ac ystyried cyflwyno cymhwyster proffesiynol cenedlaethol ar gyfer athrawon sydd â gofal am UCDau.

Nodiadau i Olygyddion:

Ynglŷn â’r adroddiad

Mae’r canfyddiadau yn yr adroddiad hwn yn defnyddio ymweliadau ag awdurdodau lleol, ysgolion cynradd ac uwchradd ac UCDau. Yn yr ymweliadau hyn, fe wnaeth AEM:

  • gyfarfod ag aelodau perthnasol o staff a, lle bo’n briodol, grwpiau o ddisgyblion
  • adolygu dogfennau ALlau, ysgolion ac UCDau

Defnyddiwyd tystiolaeth ychwanegol o:

  • ystadegau Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag addysg heblaw yn yr ysgol a gwaharddiadau
  • adroddiadau arolygu Estyn o ALlau, ysgolion ac UCDau

Mae’r adroddiad yn cynnwys astudiaethau achos ar:

  • Ysgol Uwchradd Fitzalan (Caerdydd)
  • Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr (Caerdydd)
  • Cyngor Ceredigion
  • Gwasanaeth Addysg Amgen Rhodfa Penrhos (Conwy)
  • Ysgol Gynradd Pen Afan (Castell-nedd Port Talbot)
  • Ffederasiwn Ysgolion Cwm Afan Uchaf (Castell-nedd Port Talbot)
  • Canolfan Gyflawni’r Bont (Casnewydd) (x2)
  • Cyngor Dinas Casnewydd
  • Ysgol Uwchradd Casnewydd (Casnewydd)
  • Canolfan Addysg Tai (Rhondda Cynon Taf)
  • Ysgol Gynradd Clase (Abertawe)
  • Uned Cyfeirio Disgyblion Torfaen (Torfaen)
  • Ysgol Gynradd Gymunedol Woodlands (Torfaen)
  • Ysgol Gynradd Holton (Bro Morgannwg)
  • Gwasanaeth Cyfeirio Disgyblion Wrecsam (Wrecsam)
  • Gwasanaeth Glasoed Gogledd Cymru (GIG Gogledd Cymru)