Mae angen cryfhau cyfleoedd addysg a hyfforddiant ar gyfer pobl ifanc sydd mewn perygl o droseddu
Yn ei adroddiad, ‘Ansawdd addysg a hyfforddiant ar gyfer pobl ifanc sy’n gysylltiedig â thimau troseddau ieuenctid’, mae Estyn yn arfarnu effaith y 15 partneriaeth ledled Cymru a elwir yn dimau troseddau ieuenctid neu TTIau. Mae’r timau hyn yn cynorthwyo pobl ifanc sy’n cael eu hatgyfeirio gan y llysoedd, neu sydd mewn perygl o droseddu neu fynd i helynt gyda’r gyfraith. Mae’r timau yn cynnwys y gwasanaethau cymdeithasol, yr awdurdod lleol, yr heddlu, y gwasanaeth prawf a’r gwasanaeth iechyd. Gall fod anghenion cymhleth gan y bobl ifanc y maent yn gweithio gyda nhw, fel anawsterau lleferydd ac iaith, materion iechyd meddwl a phroblemau teuluol.
Dywed Meilyr Rowlands, y Prif Arolygydd,
Nid yw pobl ifanc sy’n cael cymorth gan dimau troseddau ieuenctid yn treulio digon o amser mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth. Mae angen i dimau troseddau ieuenctid weithio’n agosach â cholegau a darparwyr dysgu yn y gwaith i wella ystod y cyfleoedd sydd ar gael i’r bobl ifanc hyn.
Mae’r gwasanaethau hyn yn gweithio gyda phobl ifanc nad yw’r gwydnwch ganddynt bob amser i oresgyn yr heriau a wynebant. Mae’n hanfodol, felly, fod mynediad pobl ifanc i addysg yn cael ei wella, a bod eu cynnydd yn cael ei gofnodi’n ofalus fel bod modd defnyddio’r wybodaeth hon i helpu gwella cyfleoedd ar gyfer addysg, cyflogaeth a hyfforddiant.
Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at y modd y gall cysylltu â gweithwyr proffesiynol lleol helpu dod o hyd i leoliad addysgol addas i unigolyn ifanc. Fodd bynnag, dim ond mewn lleiafrif o ardaloedd y mae TTIau yn gweithio fel hyn, er enghraifft ym Mro Morgannwg a Chasnewydd. Mae dulliau cydweithio fel y rhain yn ddefnyddiol, yn enwedig o ran lleihau’r perygl y bydd pobl ifanc yn ymddieithrio oddi wrth addysg. Caiff rhagor o enghreifftiau o arfer dda ac astudiaethau achos dienw am bobl ifanc unigol eu hamlinellu yn yr adroddiad llawn.
Mae arolygwyr yn argymell hefyd fod cydlynydd addysg, cyflogaeth a hyfforddiant gan bob tîm troseddau ieuenctid, eu bod yn datblygu strategaethau i hyrwyddo medrau llythrennedd a rhifedd, ac yn ehangu aelodaeth y bwrdd rheoli i gynnwys darparwyr addysg a hyfforddiant lleol.