Mae addysgu a dysgu medrau llythrennedd, rhifedd a digidol mewn prentisiaethau wedi’u gogwyddo tuag at baratoi ar gyfer asesiadau allanol, yn ôl adroddiad - Estyn

Mae addysgu a dysgu medrau llythrennedd, rhifedd a digidol mewn prentisiaethau wedi’u gogwyddo tuag at baratoi ar gyfer asesiadau allanol, yn ôl adroddiad

Erthygl

Mae adroddiad newydd, a gyhoeddwyd heddiw gan Estyn, yn archwilio sut mae cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) – gan gynnwys medrau llythrennedd, rhifedd a digidol – yn cael eu cyflwyno mewn prentisiaethau dysgu yn y gwaith. Mae’r adroddiad yn amlygu pwysigrwydd medrau hanfodol ac yn awgrymu bod cyfleoedd i wella asesu.

Er bod darparwyr yn galluogi dysgwyr yn effeithiol i gyflawni eu cymwysterau SHC, canfu’r arolygiaeth fod addysgu a dysgu medrau hanfodol mewn prentisiaethau yn canolbwyntio ar baratoi ar gyfer asesiadau allanol. Gallai hyn effeithio ar allu dysgwyr i gadw’r medrau hyn a’r gwerth maent yn eu rhoi arnynt o ran eu defnyddio yn y gwaith neu yn eu bywydau ehangach.

Mae’r astudiaeth hefyd yn dangos fel y gallai asesiadau SHC gyd-fynd yn well ag anghenion dysgwyr. Canfuwyd ei fod yn llawer gwell gan brentisiaid ddysgu medrau llythrennedd, rhifedd a digidol trwy gyd-destun eu gwaith a’u hyfforddiant galwedigaethol. Mae hyn yn groes i fodel asesu SHC sy’n generig, gan mwyaf, ac yn aml heb ei gysylltu â chyd-destun gwaith y prentis.

Dywed Owen Evans, Prif Arolygydd,  

‘‘Mae galluogi prentisiaid i ennill medrau pwysig y gallant fod wedi colli allan arnynt yn flaenorol yn rhan hollbwysig ond heriol o’r jig-so hyfforddiant. Er bod darparwyr dysgu yn y gwaith yn gweithio’n galed i sicrhau bod dysgwyr yn ennill y medrau hanfodol hyn, maen nhw a’u dysgwyr yn wynebu nifer o heriau, yn 
enwedig yn ymwneud ag asesu.’

‘‘Canfu ein hadroddiad fod bron pob un o’r dysgwyr, y tiwtoriaid a’r cyflogwyr a gymerodd ran yn ein hastudiaeth yn gwerthfawrogi datblygu medrau llythrennedd, rhifedd a digidol – ond roedd llawer ohonynt yn mynegi amheuon ynghylch addasrwydd cymhwyster SHC. Dylai’r rhai sy’n llunio polisïau ystyried ein canfyddiadau wrth iddynt adolygu cymhwyster SHC i sicrhau bod prentisiaid yn cael y cyfle gorau posibl i ddysgu a chymhwyso’r medrau sylfaenol hyn’

Mae’r adroddiad yn nodi bod her o ran datblygu’r medrau sydd eu hangen ar gyfer eu hasesiadau SHC i lawer o ddysgwyr yn ystod cyfnod cymharol fyr prentisiaeth.

Er gwaethaf yr heriau hyn, mae’r astudiaeth yn dangos sut mae darparwyr dysgu yn y gwaith yn defnyddio ystod o fodelau cyflwyno i oresgyn y materion hyn. Mae’r adroddiad yn rhannu chwe model cyflwyno gwahanol a’u cryfderau a gwendidau priodol.

Dywed Steve Bell, awdur yr adroddiad, 

‘Mae’r astudiaeth hon yn rhoi llais i’r bron i 1,200 o brentisiaid, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr a ymatebodd i’n harolwg ar-lein – ynghyd â 200 arall a siaradodd â ni wyneb-yn-wyneb yn ystod ein hymweliadau â darparwyr. Mae’r adroddiad yn dod â mewnwelediadau at ei gilydd, ynghyd ag astudiaethau achos diddorol o arfer effeithiol a sawl argymhelliad. Rydym yn gwahodd darparwyr i fyfyrio ar eu modelau cyflwyno ac yn annog Llywodraeth Cymru, Cymwysterau Cymru a phartneriaid eraill i gydweithio’n agosach â’i gilydd i sicrhau bod cymwysterau SHC yn cyd-fynd yn well ag anghenion dysgwyr.’