Erthyglau newyddion |

‘Llais y disgybl’ o fudd i ddisgyblion ac yn helpu ysgolion i wella

Share this page

Mae pedair nodwedd yn gyffredin i ysgolion sy’n rhoi llais cryf i ddisgyblion ac sy’n eu cynnwys mewn penderfyniadau, yn ôl adroddiad a gyhoeddir heddiw gan Estyn.

Yn yr ysgolion hyn:
• mae cyfranogiad gan ddisgyblion yn rhan annatod o weledigaeth ac ethos yr ysgol;
• mae strwythurau clir ar waith i gael gwybod barn disgyblion;
• caiff disgyblion amrywiaeth o gyfleoedd i ddylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio arnynt; ac
• mae staff a disgyblion yn gallu manteisio ar hyfforddiant o ansawdd da i’w helpu i ddatblygu’r medrau y mae eu hangen i sicrhau bod lleisiau disgyblion yn cael eu clywed

Mae adroddiad Estyn, ‘Cyfranogiad Disgyblion: canllaw arfer orau’, yn amlygu sut mae cyfranogiad effeithiol o fudd i ddisgyblion ac yn helpu ysgolion i wella.  Mae’r adroddiad yn cynnwys saith astudiaeth achos arfer dda i helpu pob ysgol i wella cyfranogiad eu disgyblion.

Dywed Meilyr Rowlands, y Prif Arolygydd:

“Mae gan lais cadarn disgyblion fuddion clir i ysgolion a dysgwyr.  Rwy’n annog pob ysgol i ddarllen yr arfer orau sydd i’w gweld yn yr adroddiad hwn i’w helpu i wella’r effaith a ddaw yn sgil sicrhau bod lleisiau disgyblion yn cael eu clywed.”

Yn ôl yr adroddiad, gall cyfranogiad cadarn gan ddisgyblion gynorthwyo â gwella’r ysgol trwy helpu’r ysgol i amlygu blaenoriaethau at y dyfodol a gwneud penderfyniadau mwy gwybodus am les, profiadau dysgu ac ansawdd addysgu.  Trwy eu cyfraniad, mae disgyblion yn datblygu medrau personol a chymdeithasol gwerthfawr fel medrau gwrando a gweithio gydag eraill.

Mae’r adroddiad yn amlygu’r arfer dda yn Ysgol Gynradd Hafod yn Abertawe, lle mae pob disgybl yn cael cyfleoedd rheolaidd i ddylanwadu ar benderfyniadau’r ysgol.  Bob wythnos, mae grŵp llais y disgybl yn mynd â blychau awgrymiadau o amgylch yr ysgol cyn cynnal ‘gwasanaeth aur’ yn wythnosol, pan fydd y grŵp yn rhoi adborth i weddill yr ysgol.  O ganlyniad, mae disgyblion yn hyderus bod yr ysgol yn gwrando ar eu barn ac maent wedi datblygu hunanhyder, hunan-barch a medrau gwrando.

Nodiadau i Olygyddion:

Ynghylch yr adroddiad
• Comisiynwyd adroddiad Estyn, ‘Cyfranogiad Disgyblion: canllaw arfer orau’, gan Lywodraeth Cymru ac mae ar gael yn llawn ar https://www.estyn.llyw.cymru/adroddiadau-thematig
• Mae canfyddiadau’r adroddiad yn seiliedig ar ddadansoddiad o ganfyddiadau arolygiadau a chyfweliadau dilynol dros y ffôn a amlygodd arfer dda ym maes cyfranogiad disgyblion.  Mae’r adroddiad yn defnyddio dadansoddiad o bymtheg arolygiad ysgol gynradd, pum arolygiad ysgol uwchradd a phedwar arolygiad ysgol arbennig.  Cynhaliwyd cyfweliadau dilynol dros y ffôn â naw ysgol.  Mae’r sampl yn manteisio ar arferion o bob un o’r pedwar consortiwm rhanbarthol ac yn ystyried cefndir economaidd-gymdeithasol, maint yr ysgol a chyd-destunau ieithyddol.  Mae’r adroddiad hefyd yn ystyried canllawiau a chyhoeddiadau arfer dda gan Lywodraeth Cymru a Chomisiynydd Plant Cymru.

Astudiaethau achos ar gyfranogiad disgyblion
• Ysgol Arbennig Heronsbridge, Pen-y-bont ar Ogwr
• Ysgol Uwchradd Aberteifi, Ceredigion
• Ysgol Gynradd Llanllechid, Gwynedd
• Ysgol Gynradd Gymunedol Casblaidd, Sir Benfro
• Ysgol Penmaes, Powys
• Ysgol Gynradd Hafod, Abertawe
• Ysgol Gymunedol Cefn Hengoed, Abertawe