Hybu Safonau gyda’n Gilydd: Cynhadledd Arweinyddiaeth y Sector Cynradd 2025 - Estyn

Hybu Safonau gyda’n Gilydd: Cynhadledd Arweinyddiaeth y Sector Cynradd 2025

Erthygl

Byddwn yn cynnal cynhadledd mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru ar gyfer arweinwyr ysgolion cynradd y mis hwn ar y dyddiadau canlynol:

  • 14 Mawrth, Venue Cymru yn Llandudno 
  • 27 Mawrth, ICC Cymru yng Nghasnewydd 

Bydd y gynhadledd yn cynnig llwyfan unigryw i ddylanwadu’n uniongyrchol ar bolisi, rhannu arbenigedd a chael mewnwelediadau ymarferol i wella perfformiad mewn lleoliadau cynradd.

Yn ogystal â chynnig cyfle i gymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle AS, bydd sesiwn y bore hefyd yn cynnwys sesiwn ryngweithiol ar reoli ymddygiad, cyfle i helpu i lunio’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd newydd, diweddariad ar Asesiadau Personoledig, gan gynnwys cyfle i gael rhagolwg ar ddatblygiadau sydd i ddod, yn cynnwys yr Astudiaeth Ryngwladol Cynnydd mewn Llythrennedd Darllen (PIRLS).

Bydd Estyn yn arwain sesiwn y prynhawn yn canolbwyntio ar ein hymagwedd at arolygiadau cynradd ac ymweliadau interim, yn ogystal â mewnwelediadau allweddol o adroddiad blynyddol diweddaraf PAEF. 

Gallwch gofrestru ar gyfer y digwyddiad yma: cynhadledd arweinyddiaeth y sector cynradd 2025  

Wrth gofrestru, bydd mynychwyr yn cael cyfle i gyflwyno cwestiwn ar gyfer Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg neu Estyn, gan sicrhau y caiff eu llais ei glywed wrth lunio dyfodol addysg gynradd yng Nghymru.

Ar gyfer ymholiadau yn ymwneud â chofrestru a’r digwyddiad, cysylltwch â