Gwella addysgu yw’r allwedd i godi safonau mewn ysgolion - Estyn

Gwella addysgu yw’r allwedd i godi safonau mewn ysgolion

Erthygl

Mae adroddiad Estyn, ‘Gwella addysgu’, yn amlygu sut mae 24 ysgol gynradd, uwchradd a phob oed o bob cwr o Gymru yn arwain y ffordd wrth ddatblygu a gwella arferion addysgu.  Mae’r adroddiad wedi’i seilio ar ddadansoddiad o ymchwil addysgol ac astudiaethau achos arolygu sy’n ei gwneud yn adnodd hanfodol i athrawon.
 
Meddai’r Prif Arolygydd, Meilyr Rowlands,
Mae addysgu effeithiol wrth wraidd gwella ysgolion ac mae’n ganolog i roi cwricwlwm newydd ar waith yng Nghymru.  Dylai arweinwyr ysgolion annog diwylliant o ystafelloedd dosbarth agored lle mae athrawon yn gyfforddus yn myfyrio ar eu harfer a’i rhannu.
Mae adroddiad heddiw yn arddangos ysgolion mewn sefyllfaoedd amrywiol, o’r rhai hynny mewn mesurau arbennig i’r rhai sy’n anelu at gynnal lefelau uchel o berfformiad.  Daw un o’r astudiaethau achos hyn o Ysgol Gynradd Maes-y-Coed ym Mhontypridd, lle mae safonau wedi gwella’n gyson trwy adolygu perfformiad staff trwy gyfrwng arsylwadau ystafelloedd dosbarth.  Mae’r pennaeth yn credu’n gryf mewn defnyddio ymchwil allanol, deilliannau ymchwil fewnol yn seiliedig ar weithrediadau, ac archwilio arfer dda mewn ysgolion eraill yn genedlaethol ac yn rhyngwladol i lywio arferion addysgu.
 
Mae astudiaethau achos pellach yn yr adroddiad yn amlinellu’r camau strategol mae ysgolion wedi’u cymryd i wella ansawdd eu haddysgu.  Mae’r adroddiad yn amlygu sut mae arweinwyr ac athrawon yn cymryd cyfrifoldeb am eu datblygiad eu hunain a datblygiad eu cymheiriaid, yn yr ysgolion mwyaf effeithiol.