Gall ysgolion sy’n nodi bod gan ddisgyblion anghenion addysgol arbennig yn gynnar ddarparu cymorth mwy effeithiol - Estyn

Gall ysgolion sy’n nodi bod gan ddisgyblion anghenion addysgol arbennig yn gynnar ddarparu cymorth mwy effeithiol

Erthygl

Mae arolygwyr Estyn wedi nodi ystod eang o arfer dda yn yr adroddiad.  Gall ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd ac ysgolion pob oed ddefnyddio’r arfer hon i’w helpu i wella’u cymorth ar gyfer disgyblion ag AAA a pharatoi ar gyfer newidiadau yn y ddeddfwriaeth.

Dywed Jassa Scott, Cyfarwyddwr Strategol,

Mae anghenion addysgol arbennig gan dros un o bob pum disgybl mewn ysgolion yng Nghymru, felly mae’n hanfodol bod pob ysgol yn addasu’r modd y mae’n addysgu ac yn cefnogi’r disgyblion hyn er mwyn eu galluogi i gyflawni llwyddiant ochr yn ochr â’u cyfoedion.

Mae nodi’n gynnar ac arweinyddiaeth gref yn allweddol i ddarparu cymorth effeithiol, ynghyd â chynnwys teuluoedd ac asiantaethau allanol.  Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys cyfoeth o astudiaethau achos i helpu ysgolion wella eu harfer nawr a pharatoi ar gyfer y newidiadau mewn deddfwriaeth yn y dyfodol.

Canfu arolygwyr gymorth cryf a hollgynhwysol ar gyfer disgyblion ag AAA rhwng ysgol arbennig ac ysgol gynradd ac uwchradd yng Nghaerffili.  Yma, mae Ysgol a Chanolfan Adnoddau Trinity Fields yn gweithio gyda’r awdurdod lleol a’r ddwy ysgol arall i ddatblygu dosbarthiadau lloeren fel bod disgyblion yn gallu ymuno â gwersi yn yr ysgolion prif ffrwd.  Mae hyn wedi arwain at welliannau nodedig mewn ymddygiad, mwynhad mewn dysgu a rhyngweithio cymdeithasol.  Mae disgyblion a staff yn yr ysgolion prif ffrwd wedi datblygu dealltwriaeth well o weithio gyda phlant ag AAA.

Mae astudiaeth achos arall yn yr adroddiad yn amlygu sut mae Ysgol Bae Baglan, sef ysgol pob oed yng Nghastell-nedd Port Talbot, wedi sicrhau bod anghenion y disgyblion hyn yn ganolog i gynllunio strategol a chynnwys staff allweddol ar draws yr ysgol i gydgysylltu darpariaeth.  Maent yn cefnogi staff drwy gyfathrebu cryf gan y tîm AAA, gwybodaeth fanwl am anghenion disgyblion unigol a chanllawiau ac adnoddau ymarferol.  O ganlyniad, mae’r holl ddisgyblion yn derbyn gofal, cymorth ac arweiniad o ansawdd uchel ac mae’r rheini ag AAA yn gwneud cynnydd cryf. 

Mae Estyn yn argymell bod ysgolion yn canolbwyntio’n gryfach ar y targedau yng nghynlluniau datblygu unigol disgyblion er mwyn hyrwyddo’u cynnydd mewn dysgu a’u hannibyniaeth.  Hefyd, mae angen i hunanwerthuso ysgolion roi mwy o sylw i’r cynnydd a wneir gan y grŵp hwn o ddisgyblion.