Erthyglau newyddion |

Gall ysgolion sy’n nodi bod gan ddisgyblion anghenion addysgol arbennig yn gynnar ddarparu cymorth mwy effeithiol

Share this page

Mae ysgolion sy’n cynorthwyo disgyblion ag anghenion addysgol arbennig (AAA) yn effeithiol yn gweithio’n agos ag ysgolion eraill, asiantaethau ac arbenigwyr i nodi’n gynnar y rhai y mae angen cymorth ychwanegol arnynt. Mae gwneud pob plentyn yn bwysig yn flaenoriaeth mewn ysgolion prif ffrwd sy’n arbennig o dda o ran cefnogi AAA, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd gan Estyn heddiw.

Mae arolygwyr Estyn wedi nodi ystod eang o arfer dda yn yr adroddiad.  Gall ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd ac ysgolion pob oed ddefnyddio’r arfer hon i’w helpu i wella’u cymorth ar gyfer disgyblion ag AAA a pharatoi ar gyfer newidiadau yn y ddeddfwriaeth.

Dywed Jassa Scott, Cyfarwyddwr Strategol,

Mae anghenion addysgol arbennig gan dros un o bob pum disgybl mewn ysgolion yng Nghymru, felly mae’n hanfodol bod pob ysgol yn addasu’r modd y mae’n addysgu ac yn cefnogi’r disgyblion hyn er mwyn eu galluogi i gyflawni llwyddiant ochr yn ochr â’u cyfoedion.

Mae nodi’n gynnar ac arweinyddiaeth gref yn allweddol i ddarparu cymorth effeithiol, ynghyd â chynnwys teuluoedd ac asiantaethau allanol.  Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys cyfoeth o astudiaethau achos i helpu ysgolion wella eu harfer nawr a pharatoi ar gyfer y newidiadau mewn deddfwriaeth yn y dyfodol.

Canfu arolygwyr gymorth cryf a hollgynhwysol ar gyfer disgyblion ag AAA rhwng ysgol arbennig ac ysgol gynradd ac uwchradd yng Nghaerffili.  Yma, mae Ysgol a Chanolfan Adnoddau Trinity Fields yn gweithio gyda’r awdurdod lleol a’r ddwy ysgol arall i ddatblygu dosbarthiadau lloeren fel bod disgyblion yn gallu ymuno â gwersi yn yr ysgolion prif ffrwd.  Mae hyn wedi arwain at welliannau nodedig mewn ymddygiad, mwynhad mewn dysgu a rhyngweithio cymdeithasol.  Mae disgyblion a staff yn yr ysgolion prif ffrwd wedi datblygu dealltwriaeth well o weithio gyda phlant ag AAA.

Mae astudiaeth achos arall yn yr adroddiad yn amlygu sut mae Ysgol Bae Baglan, sef ysgol pob oed yng Nghastell-nedd Port Talbot, wedi sicrhau bod anghenion y disgyblion hyn yn ganolog i gynllunio strategol a chynnwys staff allweddol ar draws yr ysgol i gydgysylltu darpariaeth.  Maent yn cefnogi staff drwy gyfathrebu cryf gan y tîm AAA, gwybodaeth fanwl am anghenion disgyblion unigol a chanllawiau ac adnoddau ymarferol.  O ganlyniad, mae’r holl ddisgyblion yn derbyn gofal, cymorth ac arweiniad o ansawdd uchel ac mae’r rheini ag AAA yn gwneud cynnydd cryf. 

Mae Estyn yn argymell bod ysgolion yn canolbwyntio’n gryfach ar y targedau yng nghynlluniau datblygu unigol disgyblion er mwyn hyrwyddo’u cynnydd mewn dysgu a’u hannibyniaeth.  Hefyd, mae angen i hunanwerthuso ysgolion roi mwy o sylw i’r cynnydd a wneir gan y grŵp hwn o ddisgyblion.