Gall arsylwi effeithiol yn yr ystafell ddosbarth wella addysgu a dysgu - Estyn

Gall arsylwi effeithiol yn yr ystafell ddosbarth wella addysgu a dysgu

Erthygl

Ymwelodd Estyn ag ysgolion llwyddiannus a rhai sy’n gwella a arolygwyd yn ddiweddar fel rhan o’r arolwg, a oedd yn dwyn y teitl ‘Arsylwi effeithiol yn yr ystafell ddosbarth mewn ysgolion cynradd ac uwchradd’. Yn yr ysgolion hyn, canfu arolygwyr fod arsylwi yn yr ystafell ddosbarth yn cael ei ddefnyddio i alluogi athrawon i rannu syniadau a’u cynorthwyo i ddatblygu’r ffordd y maent yn addysgu. Yn ystod arsylwadau, roedd ffocws cryf ar ba mor dda yr oedd disgyblion yn ymateb i’r strategaethau a ddefnyddiwyd gan yr athro, a faint roeddent yn ei ddysgu.

Dywed y Prif Arolygydd, Ann Keane,

“Mae rhai wedi gofyn a yw arsylwi yn yr ystafell ddosbarth yn ddefnyddiol o ran gwella ansawdd addysgu. Mae ein hymweliadau ag ysgolion llwyddiannus a rhai sy’n gwella yn cadarnhau y gall arsylwi effeithiol wella addysgu a chodi lefelau cyrhaeddiad.

“Mae arsylwi yn yr ystafell ddosbarth, sydd â diwylliant sefydledig o wella yn sail iddo, yn fwyaf effeithiol pan gaiff ei gyfuno â mathau eraill o arfarnu sy’n cynnwys craffu ar waith dysgwyr a gwrando ar lais y dysgwr. Yn y cyd-destun hwn, gall arsylwi gyfrannu at greu darlun cyflawn o addysgu a dysgu, yn hytrach na bod yn giplun o un wers.

“Rwy’n annog pob ysgol i adolygu’r ffordd y mae’n defnyddio arsylwi yn yr ystafell ddosbarth fel rhan o hunanarfarnu i gynorthwyo datblygiad proffesiynol athrawon. Dylai ysgolion ddatblygu polisi clir ar gyfer arsylwi yn yr ystafell ddosbarth gyda’r nod o godi safonau addysgu mewn ysgolion”.

Lle mae arsylwi yn yr ystafell ddosbarth yn llwyddiannus, mae arweinwyr hefyd yn annog mathau eraill o ddysgu proffesiynol, datblygu a gwaith tîm. Er enghraifft, mae gan uwch arweinwyr yn Ysgol Gymunedol Cefn Hengoed, Abertawe, weledigaeth glir ar gyfer addysgu a dysgu sy’n cael ei rhannu â’r staff a disgyblion trwy “Ddatganiad Polisi Addysgu a Dysgu”. Mae’r datganiad yn gosod disgwyliadau clir ac mae staff yn glir ynghylch eu rolau mewn cyflawni addysgu o ansawdd uchel.

Mae’r adroddiad yn nodi’r trefniadau ymarferol sy’n debygol o arwain at arsylwi gwersi’n llwyddiannus ac yn cynnwys astudiaethau achos i ddangos enghreifftiau o’r trefniadau hyn. Mae hefyd yn cynnwys argymhellion i ysgolion, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru. Dylai ysgolion drefnu cyfleoedd datblygiad proffesiynol i staff ar sail ystod o ffactorau, sy’n cynnwys deilliannau arsylwadau dosbarth. Dylai awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru gynorthwyo ysgolion sydd â phrosesau a phrotocolau da i rannu eu harfer.

Nodiadau i Olygyddion

Ynglŷn â’r adroddiad

Caiff yr adroddiad hwn ei gyhoeddi i ymateb i gais am gyngor ar arsylwi effeithiol yn yr ystafell ddosbarth gan Lywodraeth Cymru yn llythyr cylch gwaith blynyddol 2013-2014 y Gweinidog i Estyn. Mae’r adroddiad wedi ei fwriadu ar gyfer Llywodraeth Cymru, penaethiaid, staff mewn ysgolion, awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol. Gall hefyd fod o ddiddordeb i rieni a staff mewn sectorau eraill ac asiantaethau sy’n cydweithio ag ysgolion i wella ansawdd addysgu a dysgu. Mae’r adroddiad cyflawn ar gael yma.

Astudiaethau achos

  • Ysgol Corn Hir, Ynys Môn
  • Ysgol Uwchradd Mary Immaculate, Caerdydd
  • Ysgol Gynradd Hafodwenog, Sir Gâr
  • Ysgol Gynradd Sirol Sandycroft, Sir y Fflint
  • Ysgol Dyffryn Ogwen, Gwynedd
  • Ysgol Gynradd Deri View, Sir Fynwy
  • Ysgol Gyfun Sandfields, Castell-nedd Port Talbot
  • Ysgol Gymunedol Cefn Hengoed, Abertawe

Ynglŷn ag Estyn

Estyn yw’r Arolygiaeth Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Ein nod yw cyflawni rhagoriaeth i bawb mewn dysgu yng Nghymru. Rydym yn gwneud hyn trwy ddarparu gwasanaeth arolygu a chyngor annibynnol, o ansawdd uchel.

Ein gweledigaeth yw cael ein cydnabod trwy arbenigedd ein staff fel llais awdurdodol ar ddysgu yng Nghymru.

Rydym yn annibynnol ar, ond yn cael ein hariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru (o dan Adran 104 Deddf Llywodraeth Cymru 1998).

Am ragor o wybodaeth, ewch i’n gwefan www.estyn.gov.uk