Erthyglau newyddion |

Estyn yn penodi pum cyfarwyddwr anweithredol newydd

Share this page

Mae Estyn, yr arolygiaeth addysg a hyfforddiant i Gymru, yn falch o gyhoeddi bod pum cyfarwyddwr anweithredol annibynnol newydd wedi’u penodi i’w fwrdd. Ceisiwyd yr unigolion a benodwyd o ystod amrywiol o gefndiroedd a phrofiadau i ehangu gorwelion bwrdd strategaeth Estyn a darparu cyngor a her adeiladol ar adeg bwysig, wrth i’r sefydliad symud tuag at fodel cyflwyno newydd o 2024.

Bydd y Dr Emyr Roberts, David Jones OBE, Maria Rimmer, yr Athro Brett Pugh a’r Athro Charlotte Williams OBE yn ymuno â’r bwrdd o’r mis hwn a byddant yn gweithio’n agos â’r tîm gweithredol i ddatblygu a chyflwyno strategaeth Estyn wrth i’r sefydliad weithio tuag at fframwaith arolygu diwygiedig i’w gyflwyno yn 2024.

Wrth roi sylwadau ar y penodiadau newydd, dywedodd Owen Evans: “Mae’n bleser gen i groesawu Emyr, David, Maria, Brett a Charlotte i fwrdd Estyn. Maen nhw i gyd yn arweinwyr uchel eu parch sy’n meddu ar gyfoeth o brofiad gwerthfawr, a fydd yn cyfoethogi ymagwedd Estyn ac yn sicrhau bod ein gwaith yn ystyried ystod eang o safbwyntiau i gyflawni’r effaith orau oll ledled Cymru.

“Rydyn ni’n awyddus i sicrhau bod ein bwrdd yn adlewyrchu ystod brofiadol ac amrywiol o gefndiroedd ar draws ehangder ein gweithgareddau a fydd yn ein helpu i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Bydd sicrhau ein bod yn cynnwys lleisiau ac arbenigedd amrywiaeth eang o brofiadau ar lefel strategol yn Estyn yn gynyddol bwysig wrth i ni gryfhau ein gwaith ar degwch, amrywiaeth a chynhwysiant, ac yn parhau i addasu yn unol â’r cwricwlwm newydd a newidiadau eraill mewn addysg yng Nghymru.

“Mae’n gyfnod cyffrous iawn i addysg yng Nghymru, ac yn enwedig i ni yn Estyn gan fod gennym ni botensial i adolygu fframwaith newydd ar gyfer 2024 – yn archwilio’r ymyriadau mwyaf effeithiol a theg dros y deunaw mis nesaf. Bydd y mewnwelediad a’r mewnbwn strategol gan ein cyfarwyddwyr anweithredol newydd yn eithriadol o werthfawr wrth i ni adeiladu ar y cyfle hwn.

“Hoffwn ddiolch o galon i’r cyfarwyddwyr anweithredol sydd wedi cwblhau eu tymor ac wedi’n cynorthwyo ni trwy ein cyfnod yn dylunio’r fframwaith peilot a’r heriau a achosodd y pandemig ar draws y sector.”

Bu’r Dr Emyr Roberts yn ymgymryd â nifer o swyddi uwch ar draws Llywodraeth Cymru a’r Swyddfa Gymreig trwy gydol ei yrfa, gan gynnwys Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg a Sgiliau. Ef oedd Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru cyn iddo ymddeol yn 2017, a bu’n arwain y broses i greu’r corff amgylcheddol newydd i Gymru a oedd integreiddiodd waith y sefydliadau gwaddol blaenorol. Mae hefyd yn Gadeirydd Cyngor Prifysgol Aberystwyth.

Ar hyn o bryd, David Jones OBE yw Cadeirydd Cymwysterau Cymru, yr Asiantaeth Electroneg a Chydrannau Amddiffyn (DECA), ac mae’n aelod o Fwrdd Apeliadau Cymru NSPCC Cymru. Ac yntau’n Beiriannydd Siartredig, mae gan David dros 30 mlynedd o brofiad yn gweithio mewn Addysg bellach ac Addysg Uwch. Ers iddo ymddeol, mae’n gweithio mewn amrywiaeth o rolau anweithredol ac ymgynghori ar hyn o bryd.

Mae Maria Rimmer yn arweinydd ysgol sydd wedi ymddeol a chanddi brofiad helaeth yn gweithio ym maes rheoli a llywodraethu addysgol, a diddordeb brwd mewn cyfiawnder cymdeithasol a chysylltiadau cymunedol.

Mae’r Athro Brett Pugh yn gyn-Bennaeth a Chyfarwyddwr Addysg yng Nghyngor Dinas Casnewydd. Cyn iddo ymddeol, roedd yn Gyfarwyddwr Addysg yn Llywodraeth Cymru. Ar hyn o bryd, mae’n athro gwadd ym Mhrifysgol De Cymru ac ef yw Cadeirydd y Grŵp Cynghori Gweinidogol ar Addysg Heblaw yn yr Ysgol.

Mae’r Athro Charlotte Williams OBE yn academydd o fri, ac wedi dal nifer o rolau uwch arweinyddiaeth yn y sector Addysg Uwch. Yn ddiweddar, cadeiriodd yr adolygiad o Gymunedau Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol, Cyfraniadau a Chynefin yn y Cwricwlwm Newydd.