Estyn yn parhau ar ei daith wella trwy adolygu arolygiadau - Estyn

Estyn yn parhau ar ei daith wella trwy adolygu arolygiadau

Erthygl

Mae’r arolygiaeth yn adolygu sut bydd yn arolygu o fis Medi 2024 ymlaen. Erbyn hynny, bydd wedi arolygu pob ysgol, coleg a darparwr arall o leiaf unwaith yn ystod yr wyth blynedd diwethaf.
Dywed y Prif Arolygydd, Owen Evans, 

Mae gwneud yn siŵr fod arolygu’n cael effaith gadarnhaol ar fywydau pob dysgwr yng Nghymru wrth wraidd ein gwaith. Gan nad barnau yw’r pennawd yn y rhan fwyaf o adroddiadau arolygu erbyn hyn, gall ysgolion a darparwyr addysg a hyfforddiant eraill ganolbwyntio’n well ar gryfderau a meysydd i’w datblygu.
Nawr, rydym yn cymryd y camau nesaf fel bod ein gwaith yn parhau i gefnogi gwelliant. Wrth i ni symud tuag at y flwyddyn academaidd sy’n dechrau ym mis Medi 2024, rydym yn dechrau adolygu beth fydd ein hymagwedd o’r adeg honno ymlaen.
Cyn hir, byddwn yn cynnwys ein holl randdeiliaid mewn ymgynghoriadau – proses sydd eisoes wedi dechrau yn y sector ieuenctid – er mwyn i ni allu cynnwys syniadau pawb.

O fis Medi 2024 ymlaen, bydd arolygiadau Estyn:

  • yn fwy cynnil ac yn canolbwyntio mwy ar beth sy’n ysgogi gwelliant.
  • yn hylaw i bob darparwr ac yn ategu eu prosesau gwerthuso a gwella eu hunain.
  • yn archwilio sut y gellir teilwra gweithgareddau arolygu ehangach i gefnogi gwelliant ar draws darparwyr a sectorau unigol yn well.
  • yn cysylltu ag ysgolion a darparwyr eraill yn fwy rheolaidd ac yn cynnig adborth mwy cyfredol i rieni a gofalwyr.
  • yn dod ag arolygiadau allanol a phrosesau gwerthuso mewnol darparwyr yn nes at ei gilydd.
  • yn defnyddio adnoddau lle mae eu hangen fwyaf, er enghraifft gyda lleoliadau y mae angen cefnogaeth a monitro arnynt i wella.