Estyn yn nodi a chefnogi blaenoriaethau ar gyfer addysg a hyfforddiant - Estyn

Estyn yn nodi a chefnogi blaenoriaethau ar gyfer addysg a hyfforddiant

Erthygl

Mae arwyddion cynnar o Adroddiad Blynyddol y Prif Arolygydd 2021–22 yn dangos bod y sector addysg a hyfforddiant yng Nghymru yn parhau i ddelio ag effeithiau’r pandemig. Mae eleni’n nodi newid sylweddol i’r modd mae Estyn yn adrodd ar gynnydd.

Mewn ymgais newydd i rannu canfyddiadau’r Adroddiad Blynyddol cyn gynted â phosibl, heddiw, mae Estyn wedi amlinellu’r hyn sy’n gweithio’n dda a beth sydd angen ei gryfhau ar draws un ar bymtheg o sectorau, gan gynnwys ysgolion, colegau, dysgu yn y gwaith ac addysg gychwynnol athrawon, ymhlith eraill, yn ogystal ag ar draws themâu fel y Cwricwlwm i Gymru a diwygio anghenion dysgu ychwanegol.

Mae’r canfyddiadau hefyd yn cynnig mewnwelediadau i effaith tlodi ar gyrhaeddiad a gwelliannau mewn darparwyr a oedd yn y categorïau mesurau arbennig neu welliant sylweddol.  

Cyn ei Adroddiad Blynyddol llawn, a fydd yn cael ei gyhoeddi ddechrau’r flwyddyn nesaf, dywed y Prif Arolygydd, Owen Evans,

Mae’r mewnwelediadau cynnar hyn yn helpu i wneud synnwyr o’r cryfderau a’r heriau ar gyfer addysg a hyfforddiant wrth i ni ddechrau blwyddyn academaidd newydd. Rydyn ni wedi cyhoeddi cofweinyddion hefyd i helpu hunanwerthuso mewn meysydd lle’r ydym wedi nodi angen i wella.

Mae’r adnoddau sy’n cael eu cyhoeddi ochr yn ochr â’r canfyddiadau cryno hyn yn cynorthwyo’r rhai sy’n gweithio mewn addysg i ganolbwyntio ar rai o’r meysydd i’w gwella a amlygwyd.

Mae’r arolygiaeth wedi rhannu cofweinyddion ar gyfer hunanwerthuso ym mhob math o addysg a hyfforddiant i gefnogi:

  • arweinwyr mewn lleoliadau nas cynhelir i werthuso ansawdd eu darpariaeth
  • ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig a gynhelir ac unedau cyfeirio disgyblion i gynllunio ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru
  • ysgolion pob oed i fanteisio i’r eithaf ar fuddion cynnig darpariaeth bob oed
  • datblygu arweinyddiaeth mewn ysgolion annibynnol a cholegau arbenigol annibynnol
  • datblygu medrau rhifedd dysgwyr addysg bellach mewn cyd-destun galwedigaethol
  • swyddogion mewn gwasanaethau addysg llywodraeth leol i ystyried pa mor effeithiol maent yn gwerthuso eu gwaith ac yn nodi meysydd i’w gwella
  • gwerthuso ansawdd profiadau dysgu mewn addysg gychwynnol athrawon
  • partneriaethau dysgu oedolion i wella cydweithio
  • gwerthuso ansawdd mentora mewn addysg gychwynnol athrawon
  • darparwyr Cymraeg i oedolion i wella medrau siarad dysgwyr
  • darparwyr dysgu yn y gwaith i wella gweithio mewn partneriaeth

Mae Owen Evans yn parhau,

Dysgwyr, wrth gwrs, yw ein blaenoriaeth fwyaf. A gallan nhw gael dylanwad pwysig ar eu haddysg eu hunain. Dyna pam rydyn ni hefyd wedi cyhoeddi gweithgaredd i gynghorau ysgol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd i’w helpu i drafod pynciau pwysig, fel hanes Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a’u cymunedau, a sut i ddylanwadu ar beth a sut maen nhw’n dysgu.