Estyn yn Fyw: Y System Anghenion Dysgu Ychwanegol
Erthygl

Ymunwch â ni’n fyw am 4pm ar 16 Ionawr 2025 am drafodaeth ynglŷn ag arfer effeithiol a chanfyddiadau allweddol o’n hadroddiad thematig diweddar;
Adroddiad thematig: Y system anghenion dysgu ychwanegol
Bydd awdur yr adroddiad, Lyn West AEF yn cael cwmni cynrychiolwyr o Feithrinfa Homestead ac Ysgol Uwchradd Whitmore i rannu eu profiadau. Bydd hefyd cyfle i ofyn cwestiynau ynglŷn â’r adroddiad, neu’r pwnc yn ehangach.