Estyn yn cynorthwyo ysgolion â’r cyfnod sylfaen trwy ganllaw arfer dda newydd
Erthygl
Trwy’r adroddiad a’r ffilm, ‘Dysgu gweithredol a thrwy brofiad’, mae Estyn yn defnyddio astudiaethau achos a chameos i ddisgrifio arfer fanwl a nodweddion cyffredin ysgolion lle y mae disgyblion yn cyflawni safonau uchel mewn llythrennedd a rhifedd yn y cyfnod sylfaen.
Dywed Meilyr Rowlands, y Prif Arolygydd, “Un o gryfderau arwyddocaol addysg yng Nghymru yw ethos ac egwyddorion y cyfnod sylfaen. Yn ganolog i’w lwyddiant y mae cynllunio gofalus gan ymarferwyr fel bod yr amgylchedd dysgu yn adlewyrchu diddordebau disgyblion a’u cam datblygu, fel y gallant ddatblygu ac ymarfer eu medrau.
“Mae canllaw a ffilm heddiw yn dod â’r ffordd y dylai ysgolion ledled Cymru fod yn darparu’r cyfnod sylfaen yn fyw. O chwarae rôl paratoadau ar gyfer dathliadau pen-blwydd y Frenhines i redeg becws dros dro, mae syniadau lu i ysbrydoli pawb sy’n gweithio yn y cyfnod sylfaen i helpu gwella’r ddarpariaeth a’r deilliannau ar gyfer plant.”
Mae amrywiaeth o strategaethau ynghlwm wrth gefnogi datblygiad medrau llythrennedd a rhifedd cadarn. Er enghraifft, yn yr ysgolion gorau, mae ymarferwyr yn cydnabod pwysigrwydd siarad i ddysgu er mwyn helpu geirfa plant a chreu dychymyg byw. Datblygir medrau rhifedd ar draws amrywiaeth o weithgareddau, fel cynllunio cost gwyliau, sy’n galluogi plant i ddehongli a dethol gwybodaeth o ddata.
Mae un o’r astudiaethau achos niferus yn y canllaw darluniadol yn amlygu sut y defnyddiwyd stori’r tri mochyn bach i herio disgyblion i adeiladu tŷ cadarn. Adeiladodd y disgyblion dai i’r moch yn yr ardal awyr agored gan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau gwahanol. Fe wnaethant gofnodi’r mesuriadau a chyfrif sawl bricsen, crât neu focs a ddefnyddiwyd. Fe wnaethant brofi cryfder y tai gan ddefnyddio gwyntyllau, a thynnu ffotograffau. Roedd disgyblion yn gallu siarad am y tai a adeiladont. Fe wnaethant gyfathrebu yn ysgrifenedig a defnyddio’r medrau mathemategol a ddysgont.
Ynghyd ag amlygu arfer dda i ysgolion, mae’r canllaw’n amlinellu’r rôl y gall awdurdodau lleol, consortia rhanbarthol a Llywodraeth Cymru ei chwarae i helpu i gyflwyno’r cyfnod sylfaen. Mae’r rhain yn cynnwys darparu hyfforddiant, amlygu a rhannu arfer effeithiol a chefnogi’r ddealltwriaeth mewn ysgolion o sut i ddatblygu medrau disgyblion trwy ddysgu gweithredol a thrwy brofiad wrth ddatblygu cwricwlwm newydd i Gymru.
Ynglŷn â’r adroddiad
Comisiynwyd adroddiad Estyn gan Lywodraeth Cymru ac mae ar gael yn llawn yn https://www.estyn.llyw.cymru/adroddiadau-thematig/chwilio
Comisiynwyd adroddiad Estyn gan Lywodraeth Cymru ac mae ar gael yn llawn yn https://www.estyn.llyw.cymru/adroddiadau-thematig/chwilio
Astudiaethau achos
- Brackla Primary School, Pen-y-Bont
- Ysgol Gymraeg Cwm Derwen, Caerffili
- Ysgol Gynradd Saron, Sir Gaerfyddin
- Ysgol Glan Gele, Conwy
- Sandycroft Primary School, Sir y Fflint
- Sealand Primary School, Sir y Fflint
- Ysgol Gymraeg Ifor Hael, Casnewydd
- Tongwynlais Primary, Merthyr Tudful
- The Meads Infant and Nursery School, Sir Benfro
- Ynystawe Primary School, Abertawe
- Blaenavon Heritage VC Primary School, Torfaen
- George Street Primary School, Torfaen
- Borras Park Community Primary School, Wrecsam