Erthyglau newyddion |

Estyn yn cyhoeddi ymagwedd newydd tuag at degwch

Share this page

Mae Estyn wedi cyhoeddi sut bydd ei arolygiadau o ysgolion o’r hydref yn atgyfnerthu’r ymdrech genedlaethol i greu system addysg deg yng Nghymru.


Bydd ffocws dyfnach ar degwch o fis Medi yn gweld arolygwyr yn archwilio ac yn adrodd yn fanwl ar yr effaith y mae ysgolion yn ei chael ar gynnydd a chyrhaeddiad disgyblion sydd dan anfantais tlodi. Bydd arolygwyr yn ystyried sut mae penaethiaid ac arweinwyr eraill yn sicrhau y gall disgyblion o gefndiroedd difreintiedig fanteisio’n gyfartal ar bob agwedd ar waith yr ysgol, gan gynnwys gweithgareddau ar ôl ysgol. Hefyd, bydd ffocws o’r newydd ar sut mae arweinwyr yn defnyddio’r grant datblygu disgyblion i helpu lliniaru effaith tlodi ar gyrhaeddiad a lles y disgyblion hyn hefyd.


Mae Owen Evans, Prif Arolygydd, yn pwysleisio rôl arolygu,

Rydym wedi ymrwymo i wneud cymaint ag y gallwn yn ein gwaith arolygu i gau’r bwlch cyrhaeddiad rhwng dysgwyr difreintiedig a’u cyfoedion. 

Ni waeth pa mor anodd oedd hi i bob disgybl yn ystod y pandemig, fe welon ni fod yr effeithiau ar blant a phobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig yn fwy.


Hoffen ni weld beth mae ysgolion yn ei wneud i wneud y gwahaniaeth mwyaf – a beth arall y gallant ei wneud. O dymor yr hydref, byddwn yn ystyried pa mor dda mae ysgolion yn meithrin perthynas gadarnhaol â theuluoedd a chymuned ehangach yr ysgol i wella cyfleoedd bywyd pob disgybl.


Rydym hefyd yn disgwyl gweld disgyblion o bob cefndir yn chwarae rhan lawn ym mywyd a gwaith eu hysgol, yn cael eu clywed ac yn cael eu hysgogi ac yn cymryd rhan yn yr ystafell ddosbarth.


Trwy ei waith ymgysylltu, mae Estyn wedi gweld camau cadarnhaol a gymerwyd gan ysgolion eisoes i gynorthwyo disgyblion a theuluoedd a oedd yn wynebu problemau oherwydd anfantais economaidd-gymdeithasol yn ystod y pandemig. Mae astudiaethau achos o arfer orau a gyhoeddwyd gan yr arolygiaeth yn amlygu bod ysgolion sy’n cefnogi disgyblion bregus a difreintiedig yn llwyddiannus yn ystyried rhwystrau rhag dysgu yn her i’w goresgyn, yn hytrach nag yn broblem.