Estyn yn amlygu’r angen am gydweithio cryfach rhwng ysgolion i gefnogi cyfnod pontio disgyblion o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd

Erthygl

Mae angen i ysgolion gydweithio’n fwy effeithiol i sicrhau bod disgyblion yn gwneud cynnydd mwy cyson wrth iddynt symud o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd, yn ôl adroddiad newydd gan Estyn. Mae’r adroddiad, Pontio a chynnydd disgyblion, yn edrych ar ba mor dda y mae ysgolion yn gweithio gyda’i gilydd i gefnogi dysgu a lles disgyblion yn ystod y cyfnod pontio pwysig hwn.  

Er bod ysgolion i raddau helaeth yn llwyddiannus yn cefnogi llesiant disgyblion yn ystod trefniadau ymsefydlu, mae’r adroddiad newydd hwn yn amlygu eu bod yn aml yn ei chael yn anodd sicrhau bod dysgu disgyblion yn parhau’n llyfn wrth iddynt symud o addysg gynradd i addysg uwchradd.  

Mae’r adroddiad yn canfod bod lleiafrif o glystyrau ysgol wedi dechrau datblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd dysgu, er enghraifft trwy ffurfio grwpiau o athrawon i adolygu gwaith disgyblion. Fodd bynnag, megis dechrau y mae’r mentrau hyn ac nid ydynt eto wedi cael effaith gref ar wella parhad dysgu rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd.  

Mae arweinwyr ysgol wedi nodi heriau, megis cydlynu gwaith amryfal ysgolion cynradd gydag un ysgol uwchradd, gwahanol ddehongliadau o’r cwricwlwm, a pheidio â chael digon o amser nac adnoddau i gydweithio’n effeithiol. Mae’r adroddiad yn nodi, er gwaethaf potensial ysgolion pob oed (sy’n addysgu disgyblion o 3 i 16 oed) i ddarparu profiad dysgu parhaus, mae lleiafrif yn dal i drin cyfnodau cynradd ac uwchradd ar wahân yn hytrach nag fel profiad unedig.  

Er gwaethaf yr heriau hyn, mae’r adroddiad yn amlygu enghreifftiau o arfer dda lle mae rhai clystyrau o ysgolion wedi amlinellu’n llwyddiannus yr hyn y dylai disgyblion ei wybod, ei ddysgu a’i brofi ar draws meysydd dysgu a phrofiad. Mae hefyd yn dangos sut mae clystyrau yn dechrau defnyddio hyn i gefnogi cynnydd disgyblion rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd.  

Dywedodd Owen Evans, Prif Arolygydd Ei Fawrhydi:

“Mae ein hadroddiad yn dangos er bod ysgolion yn ymdrechu i gefnogi disgyblion wrth iddynt bontio o addysg gynradd i addysg uwchradd, mae angen gwneud mwy i sicrhau profiad dysgu llyfn. Mae cryfhau cydweithrediad rhwng ysgolion yn hanfodol i helpu disgyblion i barhau i symud ymlaen yn eu dysgu wrth iddynt symud o un cyfnod i’r llall. 

“Mae’n galonogol gweld bod Llywodraeth Cymru eisoes yn cydnabod hyn, gyda’r cyhoeddiad ym mis Gorffennaf eu bod am gyflwyno cymorth symlach, ac yn fwy hygyrch i helpu ysgolion i gynllunio eu cwricwlwm.  

“Gobeithiwn y bydd yr adroddiad hwn yn annog arweinwyr ysgolion, awdurdodau lleol, a Llywodraeth Cymru i gymryd camau pellach i wella strategaethau pontio. Drwy gydweithio, gallwn sicrhau bod disgyblion yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i lwyddo drwy gydol eu haddysg.” 

Mae’r adroddiad yn cynnwys sawl argymhelliad ar gyfer arweinwyr ysgolion, awdurdodau lleol, a Llywodraeth Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys clystyrau’n gweithio’n agosach i sicrhau bod dulliau o rannu gwybodaeth, addysgu, a’r cwricwlwm yn cefnogi disgyblion i ddatblygu gwybodaeth, sgiliau, profiadau ac ymddygiadau dysgu yn gynyddol o 3 i 16 oed, a darparu mwy o gyfleoedd hyfforddi i gefnogi cydweithio rhwng ysgolion. Mae hefyd yn cynnig offer ymarferol ac enghreifftiau o arferion da i helpu ysgolion i wella eu prosesau pontio a sicrhau bod disgyblion yn parhau i ddatblygu’n effeithiol wrth iddynt symud o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd.