Estyn yn amlygu pwysigrwydd darllen Cymraeg ar draws y cwricwlwm wrth i effaith negyddol y pandemig effeithio ar safonau o hyd

Erthygl

Mae medrau darllen llawer o ddisgyblion wedi dioddef o ganlyniad i’r pandemig. Mae adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Estyn yn edrych yn benodol ar sut mae ysgolion cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn datblygu medrau darllen Cymraeg ac yn dangos bod amrywiadau eang ym medrau darllen disgyblion 10 i 14 oed o hyd mewn ac ar draws ysgolion cynradd, uwchradd a phob oed.

Mae adroddiad Estyn, Datblygu medrau darllen Cymraeg disgyblion 10-14 oed,  yn amlygu bod effaith negyddol y pandemig yn glir o hyd ar safon medrau darllen Cymraeg disgyblion yn gyffredinol, a bod rhai disgyblion wedi colli’r hyder i gyfathrebu a darllen yn Gymraeg.

Mae canfyddiadau’r adroddiad yn dangos bod y cyfleoedd mwyaf buddiol i ddatblygu medrau darllen i’w gweld mewn gwersi Cymraeg neu sesiynau iaith ac ym mhynciau’r dyniaethau. Roedd llawer o ysgolion cynradd ac ychydig o ysgolion uwchradd yn hyrwyddo darllen er pleser yn llwyddiannus. Fodd bynnag, at ei gilydd, gwelwyd bod profiadau i hyrwyddo darllen y tu allan i’r ystafell ddosbarth wedi lleihau’n sylweddol ers y pandemig, yn enwedig yn y sector uwchradd. 

Mae’r arolygiaeth yn argymell y dylai ysgolion gryfhau cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu amrywiaeth o fedrau darllen mewn pynciau ar draws y cwricwlwm, yn ogystal â’r Gymraeg.

Mae’r adroddiad yn amlygu rhai heriau, yn enwedig mewn ysgolion uwchradd lle mae cydlynu datblygiad cynyddol medrau darllen yn gyson ar draws yr ystod o bynciau ac athrawon yn anoddach nag mewn ysgolion cynradd.

Mae’r adroddiad yn cyflwyno nifer o argymhellion ar gyfer arweinwyr ysgolion, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru. Yn ogystal â’r enghreifftiau o arfer dda, mae’r adroddiad yn cynnwys awgrymiadau ym mhob pennod i helpu ysgolion i gryfhau eu gwaith wrth ddatblygu medrau darllen disgyblion, yn ogystal â chynnig cyfres o becynnau cymorth i staff addysgu i gefnogi eu gwaith o ran hyrwyddo a chyfoethogi medrau darllen disgyblion.

Dywedodd Owen Evans, Prif Arolygydd Ei Fawrhydi:

“Nid yw’n syndod ein bod yn gweld effaith negyddol y pandemig o hyd ar safon medrau darllen Cymraeg disgyblion, ond mae ein hadroddiad newydd yn amlygu arfer dda gan ysgolion ac yn cynnig nifer o awgrymiadau a phecynnau cymorth ymarferol i gynorthwyo athrawon i ddatblygu medrau darllen Cymraeg disgyblion. 

“Mae cyfleoedd clir i wella sut gall clystyrau o ysgolion gydweithio â’i gilydd i ddatblygu medrau darllen disgyblion a chreu cyfleoedd mwy pwrpasol i ddatblygu medrau darllen Cymraeg ar draws y cwricwlwm.

“Mae gwella safon medrau darllen disgyblion yn flaenoriaeth genedlaethol ac rydym yn gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn cynorthwyo ysgolion i gynllunio’n strategol a strwythuro cyfleoedd i gynyddu diddordeb, gwydnwch a hyder disgyblion wrth ddarllen yn Gymraeg.”