Estyn yn amlygu cynnydd a heriau o ran gweithredu diwygio anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru
Mae adroddiad sy’n cael ei gyhoeddi heddiw gan Estyn yn ystyried pa mor dda y mae ysgolion, lleoliadau ac awdurdodau lleol yn gweithredu ac ymgorffori agweddau ar Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (ADYTA) a’r Cod ADY cysylltiedig.
Mae’r adroddiad, Y system anghenion dysgu ychwanegol: Cynnydd ysgolion, lleoliadau ac awdurdodau lleol o ran cefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol , yn amlygu ymrwymiad cryf a gwydnwch staff mewn ysgolion, lleoliadau, ac awdurdodau lleol o ran cefnogi disgyblion ag ADY. Fodd bynnag, mae hefyd yn tynnu sylw at anghysondebau o ran pa mor effeithiol y mae diwygiadau wedi cael eu gweithredu, a’r heriau sy’n wynebu rhanddeiliaid. Mae’r adroddiad hwn yn adeiladu ar ganfyddiadau o adolygiad thematig diweddar Estyn, Y system anghenion dysgu ychwanegol newydd.
Mae canfyddiadau’n dangos bod llawer o ddisgyblion yn gwneud cynnydd addas o’u mannau cychwyn pan fydd diwygio ADY wedi cael ei weithredu’n llwyddiannus. Roedd ysgolion a lleoliadau gyda diwylliant cynhwysol yn canolbwyntio’n dda ar ddysgu a lles pob un o’r disgyblion. Roedd rôl y Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CydADY) yn hynod effeithiol pan oedd yn cael ei hintegreiddio mewn uwch dimau arweinyddiaeth, lle roeddent yn cyfrannu’n strategol at wella darpariaeth a deilliannau ar gyfer disgyblion ag ADY.
Er gwaethaf cynnydd, mae’r adroddiad yn nodi heriau sylweddol. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Amrywioldeb yn ansawdd arweiniad awdurdodau lleol ar gyfer addysgu a dysgu cynhwysol
- Dehongliad anghyson o’r Cod ADY, yn enwedig o ran datblygu Cynlluniau Datblygu Unigol (CDUau)
- Cymorth teg cyfyngedig ar gyfer darpariaeth ADY cyfrwng Cymraeg o ganlyniad i heriau o ran recriwtio ac adnoddau
Mae’r adroddiad hefyd yn cydnabod datblygiadau cadarnhaol mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar nas cynhelir a ariennir. Gwelwyd bod Swyddogion Arweiniol Anghenion Dysgu Ychwanegol y Blynyddoedd Cynnar (SAADYBC) yn darparu cymorth amserol ac effeithiol ar gyfer plant iau ag ADY sy’n dod i’r amlwg neu ADY wedi’i nodi.
Dywedodd Owen Evans, Prif Arolygydd Ei Fawrhydi:
“Mae’n galonogol gweld ymroddiad staff ysgolion ac awdurdodau lleol wrth weithredu diwygio ADY. Fodd bynnag, mae ein canfyddiadau’n dangos bod angen gwneud mwy i sicrhau cysondeb a thegwch mewn darpariaeth, yn enwedig ar gyfer dysgwyr cyfrwng Cymraeg ac o ran egluro cymhwyso’r Cod ADY.
“Rydym ni’n gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn cynorthwyo ysgolion, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru i adeiladu ar yr arferion cadarnhaol a gafodd eu nodi a mynd i’r afael â’r heriau sy’n weddill, yn enwedig o ran cryfhau addysg gynhwysol ar draws yr holl leoliadau.”
Mae’r adroddiad yn cynnwys argymhellion ar gyfer arweinwyr ysgolion, awdurdodau lleol, a Llywodraeth Cymru. Mae’n amlygu arferion effeithiol ac yn darparu awgrymiadau ar gyfer gwella darpariaeth ADY, yn cynnwys cryfhau dysgu proffesiynol, ymestyn cymorth cyfrwng Cymraeg, a gwella prosesau sicrhau ansawdd.