Estyn yn amlinellu heriau a llwyddiannau sectorau mewn adroddiad mewnwelediadau cynnar

Erthygl

A group of secondary school children working around a desk, with one student smiling at the camera

Heddiw, mae Estyn yn cyhoeddi ei fewnwelediadau cynnar o Adroddiad Blynyddol y Prif Arolygydd 2023–24, gan roi crynodeb amserol o beth sy’n gweithio’n dda a beth sydd angen ei wella ar draws pob sector addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Nod Estyn yw sicrhau bod canfyddiadau Prif Arolygydd Ei Fawrhydi yn hygyrch ac yn ddefnyddiol i ddarparwyr addysg a hyfforddiant trwy adroddiad blynyddol ar-lein sy’n hawdd ei ddarllen a’i ddeall ac sydd ar gael i bawb cyn gynted ag y bo modd.

Heddiw, mae Estyn wedi cyhoeddi crynodebau yn benodol i sector ar draws un ar bymtheg o sectorau, gan gynnwys ysgolion, colegau, dysgu yn y gwaith, gwasanaethau addysg llywodraeth leol, gwaith ieuenctid athrawon ac addysg yn y sector cyfiawnder, ymhlith eraill, gan amlinellu beth sy’n gweithio’n dda a beth sydd angen ei gryfhau. 

Mae’r mewnwelediadau cynnar, sydd wedi’u tynnu ynghyd o ganfyddiadau arolygiadau Estyn yn ystod 2023-2024, yn myfyrio ar y prif heriau a’r llwyddiannau ym mhob sector. I gynorthwyo darparwyr i wella yn eu lleoliadau eu hunain, mae’r crynodebau sector yn cyfeirio at adroddiadau arolygu ac astudiaethau achos gan ddarparwyr a arolygwyd ac y canfuwyd eu bod yn gwneud yn arbennig o dda.  

Cyn ei Adroddiad Blynyddol llawn, a fydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Ionawr, dywedodd y Prif Arolygydd, Owen Evans:

“Wrth i ni gwblhau ein hail fis yn arolygu dan ein trefniadau newydd, mae’n bwysig ein bod yn myfyrio ar y dirwedd addysg a hyfforddiant yn ei chyfanrwydd ac yn amlygu’r meysydd sy’n cynnig heriau a chyfleoedd i ddarparwyr ledled Cymru.

“Mae fy adroddiad mewnwelediadau cynnar yn dwyn ynghyd y wybodaeth werthfawr rydym wedi’i chasglu o arolygu mwy na 400 o ddarparwyr addysg a hyfforddiant dros y deuddeng mis diwethaf. Mae’n fraint cael golwg genedlaethol ar nifer o sectorau addysg a hyfforddiant ledled Cymru a chaiff ein mewnwelediadau eu cyflwyno mewn ffordd sy’n nodi themâu a heriau cyffredinol er mwyn ceisio cefnogi gwelliant.

“Bydd fy adroddiad blynyddol llawn yn cael ei gyhoeddi ym mis Ionawr a bydd yn cynnig mewnwelediad pellach i’n blaenoriaethau addysg a hyfforddiant cyfredol yma yng Nghymru, gan roi mwy o fanylion am ganfyddiadau ein harolygiadau, ynghyd â dadansoddiad o nifer o themâu ehangach gan gynnwys addysgu a’r cwricwlwm, recriwtio a chadw, a gwrth-hiliaeth.”  

Darllenwch grynodebau’r sectorau yma.