Estyn yn amlinellu blaenoriaethau sector ac yn annog hunanwelliant - Estyn

Estyn yn amlinellu blaenoriaethau sector ac yn annog hunanwelliant

Erthygl

Gan adeiladu ar ymagwedd y llynedd at sicrhau bod canfyddiadau’r Adroddiad Blynyddol yn haws i’w darllen, eu deall ac ar gael cyn gynted â phosibl, mae Estyn wedi cyhoeddi crynodebau ar gyfer sectorau penodol ar draws dau ar bymtheg o sectorau, gan gynnwys ysgolion, colegau, darparwyr dysgu yn y gwaith, Twf Swyddi Cymru Plws (rhaglen cyflogadwyedd) ac addysg gychwynnol athrawon, ymhlith eraill, gan amlinellu beth sy’n gweithio’n dda a beth sydd angen ei gryfhau.

Mae’r crynodebau, sydd wedi’u tynnu ynghyd o ganfyddiadau arolygiadau Estyn yn ystod 2022-2023, hefyd yn cynnwys cyfres gryno o gwestiynau myfyriol ar gyfer pob sector, sydd â’r nod o helpu darparwyr i ystyried y ffordd orau i wneud cynnydd yn erbyn un o’r blaenoriaethau a nodwyd ar gyfer y sector.

I gefnogi gwelliant ymhellach, mae’r crynodebau sector yn tynnu sylw at adroddiadau arolygu ac astudiaethau achos gan ddarparwyr a arolygwyd ac y canfuwyd eu bod yn gwneud yn arbennig o dda.

Cyn ei Adroddiad Blynyddol llawn, a fydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Ionawr, dywed y Prif Arolygydd, Owen Evans, “Mae Estyn wedi ymweld â thros 400 o leoliadau addysg a hyfforddiant dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae ein canfyddiadau’n arwydd da o beth sy’n mynd yn dda a lle mae angen i ni wella ac maen nhw wedi’u llunio i’w gwneud yn haws i ni ddeall ein heriau cyffredin. Rwy’n gobeithio y bydd ymarferwyr yn defnyddio’r deunyddiau hyn wrth i bob un ohonom ymdrechu i wella ein harfer. Bydd y crynodebau sector yn galluogi darparwyr i gael cipolwg ar y themâu allweddol a’r heriau a nodwyd ar gyfer pob maes addysg a hyfforddiant yng Nghymru yn ystod y deuddeng mis diwethaf o weithgarwch arolygu.

“Bydd fy adroddiad blynyddol llawn yn cael ei gyhoeddi ym mis Ionawr a bydd yn cynnwys rhagor o fanylion am ganfyddiadau ein harolygiadau, ynghyd â dadansoddiad o nifer o themâu ehangach a fydd yn rhoi mewnwelediad pellach i’n blaenoriaethau cyfredol ar gyfer addysg a hyfforddiant yma yng Nghymru.”