Ein hymateb i’r gweithredu diwydiannol arfaethedig mewn ysgolion a gynhelir ac UCDau - Estyn

Ein hymateb i’r gweithredu diwydiannol arfaethedig mewn ysgolion a gynhelir ac UCDau

Erthygl

Rydym yn ystyried effaith gweithredu diwydiannol ar ein gwaith ar sail achos wrth achos, ond bydd ein ffocws ar ddysgwyr o hyd. Rydym wedi cysylltu â’r holl ddarparwyr yr effeithir arnynt, ac wedi mabwysiadu ymagwedd hyblyg a sensitif.

Lle mae gweithredu streicio yn effeithio ar leoliadau, byddwn yn gwneud addasiadau addas i’n trefniadau ni. Lle mae lleoliadau ar gau, neu ar gau yn rhannol, gallai hyn gynnwys cynyddu nifer aelodau’r tîm neu ymestyn y gweithgarwch.

Rydym wedi nodi bod gweithredu nad yw’n gyfystyr â streicio’n digwydd hefyd o 1 Chwefror, ac rydym wedi briffio ein staff yn llawn a byddant yn gwneud addasiadau priodol wrth gyflawni ein gwaith.

Os oes unrhyw ymholiadau gennych, anfonwch neges e-bost i .