Effaith newidiadau i reoliadau ar y cylch arolygiadau
Y llynedd, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ac Estyn gyfres o ymgynghoriadau rhwng Chwefror a Mai ar newidiadau arfaethedig i gylchoedd arolygu Estyn. Mae’r canfyddiadau cyhoeddedig ar gael yma.
Lluniwyd y rheoliadau newydd gan Lywodraeth Cymru a byddant yn dod i rym ar 1 Medi 2014.
Cewch wybod beth mae’r newidiadau yn ei olygu i chi…
Pam mae’r rheoliadau yn newid?Yn 2013, gofynnodd Estyn a Llywodraeth Cymru i ysgolion, unedau cyfeirio disgyblion, addysg bellach, dysgu oedolion yn y gymuned, gwasanaethau cymorth ieuenctid a dysgu yn y gwaith i roi eu safbwyntiau ar newidiadau arfaethedig i amlder arolygiadau a’r cyfnod rhybudd a roddir i ysgolion a darparwyr eraill. Canfu’r ymgynghoriad fod cefnogaeth aruthrol i leihau natur ragweladwy arolygiadau, felly mae’r rheoliadau wedi cael eu diwygio i adlewyrchu barn gyhoeddus. |
|
Beth mae’r newidiadau yn ei olygu yn ymarferol?Bydd mwy o hyblygrwydd i amserlennu arolygiadau o Fedi 2014. Bydd pob darparwr yn cael ei arolygu o leiaf unwaith rhwng Medi 2014 a diwedd Awst 2020, ond ni fydd cyswllt amser â’r arolygiad diwethaf. Mae hyn yn golygu na fydd ysgolion yn gallu rhagweld pryd y disgwylir y byddant yn cael eu harolygu. Bydd arolygiadau’n cael eu trefnu ar sampl gynrychioliadol fras o ysgolion bob blwyddyn. Nid oes unrhyw ogwydd i’r sampl o ran unrhyw risg ganfyddadwy a gellir arolygu unrhyw ysgol ar unrhyw adeg. |
|
A fydd cyfnod rhybudd arolygiad yn newid?Na fydd. Bydd ysgolion yn cael ugain diwrnod gwaith o rybudd ynghylch arolygiad o hyd. Mae’r fframwaith arolygu cyffredin yn aros yr un fath, bydd y tîm yr un maint a bydd yr arolygiadau yn para am yr un cyfnod. |