Dysgwyr yn elwa ar ffurfio eu haddysg
Mae adroddiad Estyn ar ‘Effeithiolrwydd strategaethau cynnwys dysgwyr mewn dysgu oedolion yn y gymuned a dysgu yn y gwaith’ yn ymchwilio i ba mor dda y mae darparwyr yn defnyddio offer fel arolygon, fforymau ac adborth i ganfod beth yw barn dysgwyr am eu profiadau addysg a hyfforddiant. Yn ogystal, mae llawer o ddarparwyr yn defnyddio strategaethau cynnwys dysgwyr i helpu dysgwyr i ddatblygu eu medrau personol, cymdeithasol ac arweinyddiaeth eu hunain.
Dywed y Prif Arolygydd, Ann Keane,
“Mae’n galonogol bod strategaethau cynnwys yn llwyddiannus o ran cynnwys dysgwyr yn fwy uniongyrchol yn y modd y mae darparwyr yn cynllunio ac yn cyflwyno dysgu. Dylai darparwyr barhau i ddarparu cyfleoedd i ddysgwyr arfer mwy o reolaeth dros yr hyn y maent yn ei ddysgu a sut maent yn dysgu.
Mae hefyd yn bwysig i ddarparwyr gyfathrebu canlyniadau arolygon ac adborth er mwyn i ddysgwyr allu gweld effaith rhannu eu barn ar alluogi’r darparwr i wneud newidiadau cadarnhaol.”
Canfu arolygwyr fod nifer sylweddol o oedolion yn cymryd mwy o gyfrifoldeb dros eu dysgu eu hunain a thros hyrwyddo manteision dysgu i eraill wrth iddynt ddod yn gynrychiolwyr cyrsiau neu drafod â darparwyr mewn ffyrdd arall ynghylch sut y gallant wella eu darpariaeth i ddysgwyr. O ganlyniad, mae llawer o ddysgwyr yn magu hyder yn eu gallu eu hunain i ddod yn arweinwyr yn eu cymunedau.
Mae’r adroddiad yn dangos bod dysgwyr mewn darparwyr dysgu yn y gwaith wedi datblygu ystod o fedrau sy’n eu helpu yn eu bywydau gwaith dyddiol hefyd, o ganlyniad i weithgareddau cynnwys dysgwyr sydd wedi helpu darparwyr i wneud gwelliannau, gan gynnwys gwelliannau i ansawdd addysgu a dysgu.
Mae darparwyr wedi ymateb yn dda i arweiniad Llywodraeth Cymru ar gynnwys dysgwyr a chaiff sawl astudiaeth achos arfer orau ei hamlygu yn yr adroddiad. Mae gan Gymdeithas Addysg y Gweithwyr Cymru strategaeth hirsefydledig i gynnwys ei dysgwyr mewn rolau arweinyddiaeth fel mater o drefn. Caiff dysgwyr eu hyfforddi fel cynrychiolwyr dysgu yn y gymuned sy’n eu helpu i ddatblygu’r medrau a’r hyder sydd eu hangen i hyrwyddo dysgu mewn llawer o gyd-destunau.
Mae’r adroddiad yn cynnwys cyfres o argymhellion i ddarparwyr dysgu oedolion yn y gymuned, darparwyr dysgu yn y gwaith a Llywodraeth Cymru. Dylai darparwyr dysgu oedolion yn y gymuned roi seilweithiau ffurfiol ar waith i helpu dysgwyr i drefnu eu dosbarthiadau a’u gweithgareddau eu hunain yn eu cymunedau. Dylai darparwyr dysgu yn y gwaith fonitro effaith cymryd rhan mewn gweithgareddau cynnwys dysgwyr ar ddysgwyr unigol yn fwy gofalus, a dylai Llywodraeth Cymru ddiwygio ei strategaeth cynnwys dysgwyr i roi mwy o bwyslais ar ddatblygu medrau dinasyddiaeth.
Nodiadau i Olygyddion
Ynglŷn â’r adroddiad
Yr adroddiad hwn (Effeithiolrwydd strategaethau cynnwys dysgwyr mewn dysgu oedolion yn y gymuned a dysgu yn y gwaith), yw’r trydydd mewn cyfres o dri adroddiad y gofynnodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau amdanynt yn ei lythyr cylch gwaith blynyddol i Estyn. Mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar ba mor dda y mae darparwyr dysgu oedolion yn y gymuned (DOG) a dysgu yn y gwaith (DYYG) yn rhoi strategaethau cynnwys dysgwyr ar waith. Mae’r adroddiad cyflawn ar gael yma.
Astudiaethau achos arfer orau
- Sefydliad y Merched Cymru
- Cymdeithas Addysg y Gweithwyr De Cymru
- Prifysgol y Drydedd Oes
Ynglŷn ag Estyn
Estyn yw’r Arolygiaeth Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Ein nod yw cyflawni rhagoriaeth i bawb mewn dysgu yng Nghymru. Rydym yn gwneud hyn trwy ddarparu gwasanaeth arolygu a chyngor annibynnol, o ansawdd uchel.
Ein gweledigaeth yw cael ein cydnabod trwy arbenigedd ein staff fel llais awdurdodol ar ddysgu yng Nghymru.
Rydym yn annibynnol ar, ond yn cael ein hariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru (o dan Adran 104 Deddf Llywodraeth Cymru 1998).
Am ragor o wybodaeth, ewch i’n gwefan www.estyn.gov.uk