Erthyglau newyddion |

Dylai ysgolion wneud defnydd gwell o’r cwricwlwm i helpu meithrin gwybodaeth, medrau a dealltwriaeth disgyblion o wrthderfysgaeth

Share this page

Mae’r rhan fwyaf o ysgolion yng Nghymru yn deall eu cyfrifoldebau o ran diogelu yn erbyn radicaleiddio, ond mae angen iddynt wneud mwy o ddefnydd o’r cwricwlwm i roi’r medrau i ddisgyblion nodi dylanwadau posibl a allai eu rhoi mewn perygl o gamfanteisio.

Yn ôl adroddiad gan Estyn, nid yw lleiafrif o arweinwyr ysgol yn gweld perthnasedd radicaleiddio ac eithafiaeth i’w hysgol, a allai arwain at golli cyfleoedd i nodi a mynd i’r afael â phryderon cynnar.

Dywed Jassa Scott, Cyfarwyddwr Strategol: Mae gan ysgolion ran allweddol mewn diogelu pobl ifanc rhag dylanwadau radicaleiddio.  Yng Nghymru, mae bron i hanner yr atgyfeiriadau gwrthderfysgaeth ar gyfer pobl 20 oed ac iau, ac mae’r gyfran uchaf o’r rhain yn dod o’r sector addysg.

Gall radicaleiddio i eithafiaeth dreisgar ddigwydd yn y lleoedd mwyaf annisgwyl.  Dylai ysgolion fod yn ymwybodol o fwlio, yn enwedig defnydd o iaith hiliol a gwrthdaro rhyng-hiliol rhwng disgyblion, sy’n gallu dangos safbwyntiau radical neu eithafol.

Ymwelodd arolygwyr ag amrywiaeth o ysgolion a darparwyr eraill i gasglu’r dystiolaeth ar gyfer yr adroddiad hwn.  Mewn un ysgol benodol, gall staff synhwyro problemau neu unrhyw newidiadau mewn ymddygiad yn gyflym trwy arolwg llesiant disgyblion.  Mae’r ysgol yn ymateb i unrhyw dueddiadau sy’n dod i’r amlwg trwy fynd i’r afael â materion trwy’r cwricwlwm mewn meysydd fel addysg bersonol a chymdeithasol, addysg grefyddol, Bagloriaeth Cymru, Saesneg a hanes.

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo ysgolion i ddeall eu dyletswyddau, ond mae Estyn yn argymell bod angen i awdurdodau lleol a chonsortia weithio gyda’i gilydd i wneud defnydd gwell o’r cwricwlwm i gynorthwyo disgyblion i feithrin gwydnwch pan fyddant yn wynebu dylanwadau radical ac eithafol.