Dylai ysgolion uwchradd ddarparu gwersi gwyddoniaeth sy’n herio disgyblion ym mhob cyfnod allweddol
Mae’r adroddiad, sef ‘Gwyddoniaeth yng nghyfnod allweddol 3 a chyfnod allweddol 4’, yn argymell y dylai ysgolion uwchradd ddarparu gweithgareddau heriol ac ysgogol ym mhob gwers wyddoniaeth i wella safonau.
Dywed Meilyr Rowlands, y Prif Arolygydd:
“Yn y gwersi gwyddoniaeth gorau, mae athrawon yn meddu ar wybodaeth bynciol gref ac maen nhw’n datblygu dealltwriaeth disgyblion gydag ystod o weithgareddau diddorol. Maen nhw’n esbonio cysyniadau’n glir, yn darparu gwaith ymarferol wedi’i gynllunio’n dda, yn gwneud defnydd da o TGCh, ac mae ganddyn nhw ddisgwyliadau uchel.”
Mae un o’r astudiaethau achos yn yr adroddiad yn amlygu’r ffordd y mae Ysgol Gyfun Bryngwyn yn cyflwyno gwers yng nghyfnod allweddol 4 ar y broses gemegol ar gyfer cynhyrchu ammonia. Ymgymerodd y disgyblion ag amrywiaeth o dasgau yn seiliedig ar ymarfer labelu graffiau a thrafodaeth dosbarth cyfan a gynigiodd her ysgogol a oedd yn cynnwys rhesymu cymhleth.
Yn ôl yr adroddiad, dylai ysgolion sicrhau hefyd fod hunanarfarniadau adrannau gwyddoniaeth yn drylwyr ac yn seiliedig ar ystod o dystiolaeth ar safonau ac addysgu sy’n benodol i bwnc. Mae’r adroddiad yn cynnwys 14 cwestiwn ar safonau, darpariaeth ac arweinyddiaeth i ysgolion eu hystyried fel rhan o’u hunanarfarniad.
Canfu’r adroddiad hefyd, er bod ysgolion yn ymwybodol o ddatblygiadau’r cwricwlwm newydd yn dilyn cyhoeddi adolygiad ‘Dyfodol Llwyddiannus’, mai ychydig iawn o ysgolion sydd wedi dechrau ystyried argymhellion yr adolygiad. Mae’r adroddiad yn argymell y dylai ysgolion arfarnu eu cwricwlwm gwyddoniaeth i baratoi ar gyfer datblygiadau’r cwricwlwm yn y dyfodol.
Mae’r adroddiad hefyd yn argymell y dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol ddarparu mwy o gymorth sy’n benodol i bwnc ar gyfer athrawon gwyddoniaeth ar wella addysgu ac asesu a hwyluso rhannu arfer dda. Dylai Llywodraeth Cymru ymgyrchu i ddenu mwy o raddedigion gwyddoniaeth i addysgu yng Nghymru gan nad yw nifer yr athrawon gwyddoniaeth ôl-raddedig sy’n cael eu hyfforddi wedi bodloni targedau cenedlaethol dros sawl blwyddyn.
Nodiadau i Olygyddion:
Mae canfyddiadau ac argymhellion yn yr adroddiad hwn yn defnyddio:
- data o asesiadau athrawon ar ddiwedd cyfnod allweddol 3 a deilliannau arholiadau ar ddiwedd cyfnod allweddol 4
- ymweliadau â 20 darparwr, gan gynnwys ysgolion uwchradd ac ysgolion pob oed
Dewiswyd ysgolion ar ôl dadansoddi data, ystyried canfyddiadau arolygiadau ac adborth gan AEM. Barnwyd bod mwyafrif yr ysgolion yr ymwelwyd â nhw yn dda neu’n rhagorol ar gyfer safonau mewn arolygiadau craidd er 2010. Fel arall, mae’r sampl mor amrywiol ag y bo modd, ac wedi’i seilio ar nifer gymesur o ysgolion cyfrwng Saesneg a chyfrwng Cymraeg, lleoliad daearyddol a ffactorau economaidd gymdeithasol. Mae’r sampl yn cynnwys nifer fach o ysgolion arloesi’r cwricwlwm hefyd.
Roedd yr ymweliadau’n cynnwys:
- cyfweliadau ag uwch arweinwyr, arweinwyr pwnc a disgyblion
- arsylwi dwy wers i arfarnu safonau ac ansawdd yr addysgu yn y ddau gyfnod allweddol
- cyfweliadau â disgyblion i gynnwys craffu ar eu gwaith gwyddoniaeth a chasglu eu safbwyntiau ar y ddarpariaeth a’r dewisiadau sydd ar gael yn yr ysgol
- craffu ar ddogfennau ysgol cyn ymweliad, gan gynnwys adroddiadau a chynlluniau gwella diweddaraf ysgolion ac adrannau gwyddoniaeth
Cyfwelwyd â phob swyddog pwnc gwyddoniaeth consortiwm rhanbarthol yn unigol. Hefyd, ystyriwyd data ar gyfer recriwtio athrawon gwyddoniaeth ac o sefydliadau addysg a hyfforddiant cychwynnol i athrawon.
Mae astudiaethau achos o’r sefydliadau canlynol wedi eu cynnwys yn yr adroddiad:
- Ysgol Gyfun Cymer Rhondda, Porth
- Ysgol Gyfun Bryngwyn, Llanelli
- Ysgol John Bright, Llandudno
- Ysgol Uwchradd Yr Eglwys Newydd, Caerdydd
- Consortiwm rhanbarthol ERW