Dylai ysgolion ddarparu mwy o gyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu a defnyddio eu medrau ariannol
Canfu adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Estyn ar Addysg ariannol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru fod newidiadau diweddar i’r cwricwlwm wedi helpu’r rhan fwyaf o ysgolion i nodi cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu eu medrau ariannol mewn gwersi mathemateg ac mewn pynciau eraill.
Yn yr ysgolion gorau, mae athrawon yn cynllunio amrywiaeth o weithgareddau sy’n gweddu i oedran a gallu disgyblion ac yn eu herio i ddatblygu eu medrau ariannol ar draws y cwricwlwm. Er enghraifft, mewn un ysgol gynradd, mae disgyblion yn mynychu clwb cynilo wythnosol ble maent yn bancio ac yn cadw golwg ar eu cynilion a chwarae gemau sy’n datblygu eu medrau trin arian.
Dywed Meilyr Rowlands, y Prif Arolygydd,
“Mae gan ysgolion gyfrifoldeb i sicrhau bod disgyblion yn datblygu’r wybodaeth, y medrau a’r agweddau i allu trin arian yn hyderus. I wneud hyn, dylen nhw ddarparu digon o gyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu a chymhwyso eu medrau ariannol ar draws y cwricwlwm. Er enghraifft, mewn ysgolion cynradd, gallai disgyblion gymharu gwahanol wefannau i gynllunio gwyliau a dysgu am gyllidebu a gwerth am arian.”
Canfu’r adroddiad hefyd, er bod mwyafrif yr ysgolion yn asesu medrau rhifedd, mai ychydig iawn ohonynt sy’n canolbwyntio’n benodol ar fedrau ariannol. Mae’r adroddiad yn argymell y dylai ysgolion fonitro ac arfarnu ansawdd yr addysgu a’r dysgu yn y maes hwn yn agosach.
Dylai ysgolion ddarparu hyfforddiant priodol ar gyfer staff i wella’r addysg ariannol y maent yn ei chynnig, a dylai awdurdodau lleol a chonsortia adolygu eu rhaglenni hyfforddiant rhifedd. Dylai Llywodraeth Cymru hyrwyddo ei harweiniad ar addysg ariannol effeithiol a’i gynnwys mewn cronfa ddata o adnoddau defnyddiol i gynorthwyo athrawon.
Ynglŷn â’r adroddiad
Comisiynwyd adroddiad Estyn ‘Rheoli Arian: Addysg ariannol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru’ gan Lywodraeth Cymru ac mae ar gael yn llawn yn https://www.estyn.llyw.cymru/adroddiadau-thematig
Mae canfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad hwn yn defnyddio dadansoddiad o ganfyddiadau arolygu, cyfweliadau ffôn ag ysgolion yr ymwelwyd â nhw ar gyfer yr adroddiad cylch gwaith blaenorol neu ysgolion sydd ag arfer dda mewn addysg ariannol, ac arolygon ar-lein o ysgolion a chynrychiolwyr consortia rhanbarthol.
Dyma’r ysgolion a gymerodd ran yn yr arolwg ffôn:
- Ysgol Uwchradd Gatholig yr Esgob Hedley, Merthyr Tudful
- Ysgol Gynradd Y Coed-duon, Caerffili
- Ysgol Uwchradd Fitzalan, Caerdydd
- Ysgol Gynradd Kymin View, Trefynwy
- Ysgol Gyfun Pontarddulais, Abertawe
- Ysgol Gynradd Tredelerch, Caerdydd
- Ysgol Gynradd Ton-yr-Ywen, Caerdydd
- Ysgol Golwg y Cwm, Powys
- Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, Caerdydd