Dyheadau uchel ysgolion yn helpu mynd i’r afael ag effeithiau tlodi ac anfantais
Dywed Jassa Scott, Cyfarwyddwr Strategol,
Mae rhai disgyblion yn wynebu rhwystrau emosiynol, cymdeithasol a datblygiadol rhag dysgu, tra bydd disgyblion eraill dan anfantais oherwydd caledi ariannol a chymdeithasol gartref.
Mae’r ysgolion mwyaf effeithiol nid yn unig yn canolbwyntio ar yr heriau mae’r disgyblion hyn yn eu profi, maen nhw’n nodi diddordebau a doniau unigol hefyd, ac yn adeiladu ar yr elfennau cadarnhaol hyn. Mae ymchwil yn dangos, o’r holl ffactorau addysg, mai addysgu yn yr ystafell ddosbarth sy’n cael y dylanwad mwyaf ar ddysgu disgyblion. Mae disgyblion o gefndiroedd difreintiedig yn elwa hyd yn oed yn fwy na’u cyfoedion ar addysgu o ansawdd uchel.
Mae adroddiad heddiw yn cynnwys enghreifftiau o lawer o wahanol ysgolion ledled Cymru y mae eu gwaith wedi cael effaith gadarnhaol ar gynorthwyo dysgwyr sy’n agored i niwed a dysgwyr dan anfantais.
Yn yr adroddiad, amlygwyd yr amgylchedd gofalgar yn Ysgol Gynradd Herbert Thompson yng Nghaerdydd, sydd wedi cael effaith gadarnhaol eang. Yma, caiff pob disgybl ei atgoffa bob dydd ei fod ‘yn cael ei garu, a’i fod yn gryf, yn bwysig ac yn arbennig’. Mae athrawon wedi gweld perthnasoedd gwell rhwng staff a disgyblion, gostyngiad mewn digwyddiadau negyddol, ac mae disgyblion yn canolbwyntio ar gyflawni eu llawn botensial.
Mae adroddiad heddiw, sef ‘Cymorth ysgol effeithiol ar gyfer disgyblion dan anfantais a disgyblion sy’n agored i niwed’ yn argymell y dylai pob ysgol ystyried yr arfer orau a amlinellir yn ei hastudiaethau achos i’w helpu i gynyddu effaith y cyllid a mynd i’r afael â phryderon â phresenoldeb a chyflawniad.