Dyfnhau dealltwriaeth athrawon o asesu fel blaenoriaeth i’r Cwricwlwm i Gymru - Estyn

Dyfnhau dealltwriaeth athrawon o asesu fel blaenoriaeth i’r Cwricwlwm i Gymru

Erthygl

Rhaid i ysgolion wneud yn siŵr fod asesiadau athrawon yn llywio addysgu ac yn helpu disgyblion i ddeall a gwneud cynnydd yn eu dysgu eu hunain, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Estyn. Mae llawer o arweinwyr ysgol yn mynegi ansicrwydd am sut i ymdrin ag asesu yng nghyd-destun y Cwricwlwm i Gymru.

Gall adroddiad heddiw, Yr ymagwedd newidiol at asesu, helpu ysgolion i symud tuag at asesu sy’n cefnogi dysgu disgyblion. Wrth i rai ysgolion fabwysiadu’r Cwricwlwm i Gymru, ac ysgolion eraill yn parhau i baratoi, mae’r arolygiaeth yn argymell y dylai ysgolion ymdrin ag asesu mewn ffordd sy’n dyfnhau dealltwriaeth athrawon o ddysgu disgyblion, a sut gallant wneud cynnydd.

Ymwelodd arolygwyr â sampl o ysgolion ledled Cymru y cydnabuwyd yn flaenorol bod ganddynt arfer gryf mewn addysgu.

Dywed Owen Evans, y Prif Arolygydd,

Mae cael asesu’n gywir yn flaenoriaeth i’r Cwricwlwm i Gymru. Rydyn ni’n gwybod bod profion yn rhan yn unig o’r broses o werthuso pa mor dda mae disgyblion yn dysgu. Dylai asesu yn yr ystafell ddosbarth ymateb i anghenion disgyblion unigol a bod yn rhan barhaus a naturiol o addysgu, nid yn ddull atebolrwydd.

Gall adroddiad heddiw helpu ysgolion i gynllunio sut maen nhw’n asesu gwaith disgyblion a datblygu eu hymagweddau i adlewyrchu’r Cwricwlwm i Gymru. Mae’n nodi arfer dda o ystod eang o ysgolion cynradd, uwchradd, pob oed ac arbennig. 

Mae astudiaethau achos yn yr adroddiad yn amlygu’r modd y mae ysgolion wedi datblygu ymagweddau effeithiol at asesu. Mae staff yn Ysgol Uwchradd Gatholig Joseff Sant, Casnewydd, yn sicrhau bod asesu yn hanfodol i addysgu. Mewn un ymagwedd, mae arweinwyr pwnc yn nodi adegau allweddol pan mae’n rhaid i athrawon wirio bod disgyblion wedi deall cyn iddynt barhau â’u dysgu. Hefyd, mae’r ysgol yn adolygu’n rheolaidd effaith yr hyn maen nhw’n ei wneud ac wedi ennyn cefnogaeth rhieni, disgyblion ac athrawon ar gyfer y system hon.

Mae argymhellion pellach yn yr adroddiad yn cynnwys datblygu dealltwriaeth athrawon ac arweinwyr o’r math hwn o asesiad, a sicrhau bod athrawon yn defnyddio’r wybodaeth sydd ganddynt i addasu eu haddysgu i gefnogi a herio’r holl ddisgyblion, fel y bo’n briodol.