Disgyblion yn cael trafferth gyda medrau rhif sylfaenol - Estyn

Disgyblion yn cael trafferth gyda medrau rhif sylfaenol

Erthygl

Er bod mwyafrif o ddisgyblion yn gallu mesur a defnyddio data, nid yw llawer ohonynt yn meddu ar fedrau rhif sylfaenol ac nid ydynt yn gallu cofio ffeithiau rhif allweddol yn hawdd, fel sut i luosi.

Mae adroddiad yr arolygiaeth, sef Rhifedd yng nghyfnodau allweddol 2 a 3: astudiaeth waelodlin, yn archwilio sut mae sampl o ysgolion cynradd ac uwchradd yn datblygu medrau rhifedd disgyblion ar draws y cwricwlwm. Bydd arolygwyr yn ail-ymweld â’r un ysgolion dros y ddwy flynedd nesaf ac yn adrodd ar ba gynnydd sydd wedi’i wneud o ran gwella medrau rhifedd disgyblion. Bydd yr astudiaeth hefyd yn canolbwyntio ar ba mor dda y mae ysgolion wedi rhoi Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Llywodraeth Cymru ar waith, ac yn archwilio’i effaith.

Dywedodd Ann Keane, y Prif Arolygydd,

“Mae llythrennedd yn parhau i fod yn destun pryder mewn ysgolion. Rydym yn gwybod nad yw llawer o ysgolion wedi rhoi gymaint o sylw i rifedd ag y gwnaethant i lythrennedd, ond mae’n hanfodol bod gan ysgolion gynlluniau clir ar gyfer datblygu medrau rhifedd. Mae angen i’r cynlluniau fynd i’r afael â medrau rhifedd gwan pobl ifanc fel eu bod yn gallu gwneud rhifyddeg pen, deall ymresymu rhifiadol a pheidio â gorfod dibynnu ar gyfrifiannell.

 

“Mae rhifedd sylfaenol yn un o fedrau hanfodol bywyd y mae ei angen yn y rhan fwyaf o swyddi ac i reoli cyllid personol. Ond mae mwyafrif o ddisgyblion yn cael trafferth deall sut mae rhifedd yn berthnasol i’w bywydau bob dydd, ac mae angen mynd i’r afael â hyn.

 

“Rydym yn gwybod na fydd newid yn digwydd dros nos. Bydd astudiaeth Estyn dros y ddwy flynedd nesaf yn olrhain y cynnydd a wneir gan ein sampl o ysgolion, ac yn adrodd ar weithredu’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd newydd, a’i effaith.”

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith mai tystiolaeth gyfyngedig sydd mewn llawer o’r ysgolion y gwnaed arolwg ohonynt fod disgyblion yn cymhwyso medrau rhifedd uwch am eu bod yn cael trafferth gyda’r pethau sylfaenol. Mae hyn yn golygu bod disgyblion yn aml yn cael anhawster defnyddio ymresymu i ddatrys problemau ysgrifenedig am fod llawer o’r ysgolion yn addysgu technegau ysgrifenedig ar gyfer datrys symiau cyn bod dealltwriaeth gadarn gan y disgyblion o rif a gwerth lle. Mae rhai disgyblion yn cael trafferth gyda degolion, ffracsiynau a chanrannau, fel deall y perthnasoedd rhwng 2/5, 0.4 a 40%.

Yn aml, nid yw cydlynwyr rhifedd, sy’n gyfrifol am ddatblygu rhifedd ar draws y cwricwlwm, yn talu digon o sylw i’r cwricwlwm cyfan, ac nid oes polisi clir gan lawer o ysgolion sy’n berthnasol ar draws pob dosbarth ac adran.

Mae agweddau eraill y mae angen eu gwella yn cynnwys olrhain a monitro cynnydd disgyblion. Dim ond lleiafrif o ysgolion cynradd ac ychydig o ysgolion uwchradd sydd â systemau effeithiol ar waith i olrhain cynnydd disgyblion mewn rhifedd y tu hwnt i’w gwersi mathemateg. Fodd bynnag, mae rhai awdurdodau lleol, fel Casnewydd, yn cynhyrchu deunyddiau defnyddiol i gynorthwyo ysgolion yn y maes hwn.

Gwelodd arolygwyr arfer ragorol mewn ychydig o’r ysgolion a oedd yn rhan o’r arolwg. Yn Ysgol Sant Richard Gwyn ym Mro Morgannwg, mae archwiliad trylwyr o rifedd ar draws y cwricwlwm wedi’u galluogi i gynllunio a chynnig gweithgareddau sydd wedi gwella medrau rhifedd y disgyblion.

Mae Estyn yn argymell bod ysgolion yn mynd i’r afael ar frys ag anhawster disgyblion â medrau rhif sylfaenol, ac yn sefydlu dull ysgol gyfan o gynyddu medrau rhifedd a monitro cynnydd. Dylai awdurdodau lleol neu gonsortia gefnogi athrawon hefyd i wella eu gwybodaeth, eu medrau a’u hyder yn addysgu medrau rhifedd.

Nodiadau i Olygyddion

Ynglŷn â’r adroddiad

  • Comisiynwyd adroddiad Estyn ‘Rhifedd yng nghyfnodau allweddol 2 a 3: astudiaeth waelodlin’ gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ac mae ar gael yn llawn yma.
  • Mae’n adroddiad gwaelodlin astudiaeth tair blynedd sy’n defnyddio sampl o 11 o ysgolion cynradd a 12 o ysgolion uwchradd, a arolygwyd rhwng 2010-2012.

Astudiaethau achos o arfer orau (trwy gydol yr adroddiad)

  • Gwasanaethau addysg awdurdod lleol Casnewydd i blant a phobl ifanc
  • Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Richard Gwyn, Bro Morgannwg
  • Ysgol Uwchradd Elfed, Sir y Fflint
  • Ysgol Gynradd Marshfield, Casnewydd
  • Ysgol Bryngwyn, Sir Gaerfyrddin

Dyma’r ysgolion sy’n cymryd rhan yn yr astudiaeth:

  • Ysgol Bassaleg, Casnewydd
  • Ysgol Gynradd Brynmill, Abertawe
  • Ysgol Gynradd Brynnau, Rhondda Cynon Taf
  • Ysgol Gyfun Bryntirion, Pen-y-bont ar Ogwr
  • Ysgol Uwchradd Elfed, Sir y Fflint
  • Ysgol Gynradd Litchard, Pen-y-bont ar Ogwr
  • Ysgol Gynradd Marshfield, Casnewydd
  • Ysgol Gynradd Gymunedol Mountain Lane, Sir y Fflint
  • Ysgol Olchfa, Abertawe
  • Ysgol Gynradd Gymunedol Penycae, Wrecsam
  • Ysgol Uwchradd Prestatyn, Sir Ddinbych
  • Ysgol Gyfun Sandfields, Port Talbot
  • Ysgol Gynradd Stebonheath, Sir Gaerfyrddin
  • Ysgol Iau Gatholig Rufeinig San Helen, Bro Morgannwg
  • Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Richard Gwyn, Bro Morgannwg
  • Ysgol Gynradd Traethmelyn, Port Talbot
  • Ysgol Bryngwyn, Sir Gaerfyrddin
  • Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, Caerdydd
  • Ysgol Melyd, Sir Ddinbych
  • Ysgol Morfa Rhianedd, Conwy
  • Ysgol Gyfun Y Pant, Rhondda Cynon Taf
  • Ysgol y Creuddyn, Conwy
  • Ysgol y Grango, Wrecsam

Ynglŷn ag Estyn

Estyn yw’r Arolygiaeth Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Ein nod yw cyflawni rhagoriaeth i bawb mewn dysgu yng Nghymru. Rydym yn gwneud hyn trwy ddarparu gwasanaeth arolygu a chyngor annibynnol, o ansawdd uchel.

Ein gweledigaeth yw cael ein cydnabod trwy arbenigedd ein staff fel llais awdurdodol ar ddysgu yng Nghymru.

Rydym yn annibynnol ar, ond yn cael ein hariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru (o dan Adran 104 Deddf Llywodraeth Cymru 1998).

Am ragor o wybodaeth, ewch i’n gwefan www.estyn.gov.uk