Dealltwriaeth disgyblion o faterion byd-eang yn gwella

Erthygl

Ers i adroddiad gwaelodlin gael ei gyhoeddi gan Estyn yn 2006, canfu arolygwyr y bu gwelliant yn nealltwriaeth disgyblion o gysyniadau dinasyddiaeth fyd-eang, fel cyfoeth a thlodi, iechyd, a dewisiadau a phenderfyniadau.

Mae’r adroddiad, ADCDF: Cynnydd mewn addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang, yn canolbwyntio ar saith thema sy’n ymwneud ag ystod o faterion a chysyniadau, sef:

  • yr amgylchedd naturiol;
  • defnydd a gwastraff;
  • newid yn yr hinsawdd ar gyfer cynaliadwyedd;
  • cyfoeth a thlodi;
  • hunaniaeth a diwylliant;
  • dewisiadau a phenderfyniadau; ac
  • iechyd ar gyfer dinasyddiaeth fyd-eang.

Dywed Ann Keane, Prif Arolygydd,

“Mae gan ysgolion rôl allweddol mewn hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol, cynorthwyo integreiddio a sicrhau bod y genhedlaeth nesaf yn genhedlaeth o unigolion goddefgar sy’n meddwl mewn ffordd fyd-eang. Mae’n galonogol gweld bod gwelliant wedi digwydd a’n bod ar y trywydd iawn ym mwyafrif yr ysgolion cynradd a’r ysgolion uwchradd y gwnaethom ni ymweld â nhw.

 

“Mae gofalu am yr amgylchedd, mynd i’r afael â thlodi, sicrhau amrywiaeth a bioamrywiaeth a chynorthwyo pobl i fyw bywydau iach yn werthoedd sy’n cael eu hymgorffori ar draws ysgolion Cymru. Hoffwn weld ysgolion yn gwella dealltwriaeth disgyblion o faterion mwy cymhleth yn awr fel hunaniaeth a diwylliant.

 

“Byddwn i’n annog ysgolion i lawrlwytho’r adroddiad ac astudio’r astudiaethau achos arfer orau y mae’n eu cynnwys.”

Canfu’r adroddiad mai prin yw’r disgyblion mewn ysgolion uwchradd sydd â dealltwriaeth dda o gysyniadau mwy cymhleth, fel y cyswllt rhwng diwylliant, ffydd a gwerthoedd a chredoau unigol, er bod dealltwriaeth well o effaith gwahaniaethu a rhagfarn ar y cyfan gan ddysgwyr mewn ysgolion sydd â chyfran uchel o ddisgyblion ethnig lleiafrifol na dysgwyr mewn ysgolion eraill.

Mae disgyblion mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yn deall cysyniadau cyfoeth a thlodi yn gyffredinol erbyn hyn. Mae bron pob un o’r disgyblion yn deall effeithiau anghydraddoldeb ac effaith elusen. Mae Ysgol y Berllan Deg yng Nghaerdydd wedi nodi pwysigrwydd ADCDF ac mae’n cydlynu ei saith thema ar draws y cwricwlwm. Mae cysylltiadau agos gydag ysgolion yn Lesotho a Phatagonia wedi annog disgyblion i ddysgu am fywyd mewn gwahanol rannau o’r byd. Mae astudiaethau achos pellach trwy gydol yr adroddiad yn dangos strategaethau arfer orau.

Yn y rhan fwyaf o’r ysgolion yr ymwelwyd â nhw, mae gan arweinwyr weledigaeth glir ar gyfer hyrwyddo ADCDF. Cydnabu arweinwyr y modd y mae datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang yn effeithio ar ethos bywyd ysgol a beth y mae hynny’n ei olygu i staff a disgyblion yn yr ysgol a thu hwnt. Yn gyffredinol, mae’r ddarpariaeth yn fwy effeithiol mewn ysgolion lle mae gan staff dynodedig gyfrifoldeb am ddatblygu ADCDF. Pan nad yw cyfrifoldebau yn ddigon clir, nid yw hyn yn wir.

Mae’r adroddiad yn cynnwys cyfres o argymhellion i ysgolion, awdurdodau a chonsortia rhanbarthol. Mae angen i ysgolion gynllunio ar gyfer datblygu dealltwriaeth disgyblion o’r saith thema ar draws y cwricwlwm yn raddol ac asesu ac olrhain datblygiad disgyblion. Mae gwneud i ADCDF gyfrannu at ddatblygu medrau llythrennedd a rhifedd hefyd yn argymhelliad. Yn olaf, mae arolygwyr yn awgrymu hyfforddiant gwell i athrawon a llywodraethwyr a sefydlu cyfeirlyfr arfer dda.

Nodiadau i Olygyddion:

Ynglŷn â’r adroddiad

  • Comisiynwyd adroddiad Estyn ‘ADCDF: Cynnydd mewn addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang’ gan Lywodraeth Cymru ac mae ar gael yn llawn yma.
  • Mae tystiolaeth yr adroddiad hwn wedi’i seilio ar ddadansoddiad o ganfyddiadau arolygu o ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig o 2010-2013; ymweliadau â sampl gynrychioliadol o 10 ysgol gynradd, 10 ysgol uwchradd a dwy ysgol arbennig.
  • Mae’r adroddiad hwn yn edrych ar gynnydd er 2006 pan gyhoeddwyd adroddiad gwaelodlin gan Estyn, ‘Sefydlu datganiad sefyllfa ar gyfer Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-Eang yng Nghymru’.

Astudiaethau achos arfer orau

  • Ysgol y Berllan Deg, Caerdydd
  • Ysgol Plascrug , Ceredigion
  • Heronsbridge Special School, Pen-y-Bont
  • Cwmtawe Community Secondary School, Castell-nedd Port Talbot
  • Ysgol Aberconwy, Conwy
  • Blaen-y-maes Primary School, Abertawe

Ynglŷn ag Estyn

Estyn yw Arolygiaeth Addysg a Hyfforddiant Cymru. Ein nod yw cyflawni rhagoriaeth mewn dysgu i bawb yng Nghymru. Gwnawn hyn trwy ddarparu gwasanaeth arolygu a chyngor annibynnol, o ansawdd uchel.

Ein gweledigaeth yw cael ein cydnabod trwy arbenigedd ein staff fel llais awdurdodol ar ddysgu yng Nghymru.

Rydym yn annibynnol ar, ond yn cael ein hariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru (o dan Adran 104 Deddf Llywodraeth Cymru 1998).

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n gwefan.