Datganiad: Addysgu darllen yng Nghymru
Mae Estyn yn cydnabod yr angen i flaenoriaethu gwella medrau darllen dysgwyr yng Nghymru. Mae Estyn hefyd yn cydnabod bod yr addysgu a’r dysgu gorau mewn darllen yn gallu cynnwys ystod o fethodolegau ac arferion, gyda ffoneg fel bloc adeiladu allweddol. Er y byddem yn disgwyl gweld arfer yn seiliedig ar ffoneg yn cael ei chynnwys mewn ysgolion, nid yw Estyn yn cymeradwyo unrhyw un ymagwedd benodol at addysgu darllen, ond mae’n defnyddio ystod o dystiolaeth i werthuso pob ymagwedd gyda ffocws ar ei heffaith ar gynnydd dysgwyr.
Yn ein profiad ni, mae’r ysgolion mwyaf effeithiol yng Nghymru yn defnyddio ymagwedd gytbwys at addysgu darllen. Mae’r ysgolion hyn yn defnyddio ystod o strategaethau fel bod bron pob un o’r dysgwyr yn darllen â rhuglder a dealltwriaeth. Mae gan yr ysgolion hyn ymagwedd ysgol gyfan at ddatblygu medrau darllen dysgwyr ac mae ganddynt ddiwylliant darllen sefydledig. Pan fydd plant yn dechrau yn yr ysgol, mae’r athrawon gorau yn rhoi pwyslais ar ddatblygu medrau cyn-darllen ac wedyn yn adeiladu ar hyn trwy addysgu ffoneg yn eglur ac yn raddol. Mae athrawon yn annog dysgwyr i ddefnyddio ystod o strategaethau fel rhan o’r ymagwedd gytbwys hon. Wrth i ddysgwyr symud trwy’r ysgol, mae athrawon yn eu cynorthwyo i gaffael medrau darllen a dilyniant geirfa uwch trwy barhau i ddatblygu eu dealltwriaeth fel y sylfaen ar gyfer yr holl ddysgu.