Cynnydd yn y niferoedd sy’n ymgymryd â phrentisiaethau uwch, ond mae cyfraddau cwblhau yn amrywio gormod - Estyn

Cynnydd yn y niferoedd sy’n ymgymryd â phrentisiaethau uwch, ond mae cyfraddau cwblhau yn amrywio gormod

Erthygl

Mae’r adroddiad, ‘Prentisiaethau uwch mewn dysgu yn y gwaith’, yn arfarnu safonau, darpariaeth ac arweinyddiaeth y math hwn o brentisiaeth, sy’n debyg i rai cymwysterau ar lefel prifysgol.  Mae’n amlygu profiad cadarnhaol llawer o ddysgwyr sy’n croesawu’r cyfle i ennill cymwysterau ffurfiol a datblygu eu medrau ymarferol ar lefel oruchwyliol neu reolaethol, ond yn argymell y dylai sefydliadau dysgu yn y gwaith fynd i’r afael â’r amser y mae’n ei gymryd i rai dysgwyr orffen.

Dywed y Prif Arolygydd, Meilyr Rowlands,

Mae prentisiaethau lefel uwch yn ffordd ddelfrydol i gydnabod medrau pobl yn y gweithle ac iddynt ennill cymhwyster ffurfiol wrth ennill cyflog o hyd.  Yr her nawr yw codi cyfraddau cwblhau i gyd-fynd â lefel prentisiaethau eraill a chynyddu’r niferoedd sy’n ymgymryd â phrentisiaethau uwch mewn meysydd medrau sydd â blaenoriaeth, fel technoleg gwybodaeth a pheirianneg.

Mae’r adroddiad yn amlygu llwyddiannau ac yn nodi manteision ennill cymhwyster prentisiaeth uwch trwy gryfhau medrau arweinyddiaeth a chyfathrebu dysgwyr, a chynyddu cyfleoedd i gael swyddi a dyrchafiadau.  Mewn ychydig o achosion, mae’r rhaglen yn rhy feichus i ddysgwyr neu’n anodd ei chydbwyso â bywyd gwaith a chartref.  Mae arolygwyr yn argymell y dylai darparwyr dysgu yn y gwaith gynorthwyo dysgwyr yn well trwy fentora, gweithdai a hyfforddiant, yn ogystal ag ymgysylltu â chyflogwyr newydd.  Mae rôl i Lywodraeth Cymru hefyd, o ran hwyluso dealltwriaeth well ymhlith darparwyr dysgu yn y gwaith ynghylch ystyried cymwysterau rhifedd a llythrennedd presennol dysgwyr.