Cynnydd cymysg gyda chynlluniau strategol ar gyfer darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg - Estyn

Cynnydd cymysg gyda chynlluniau strategol ar gyfer darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg

Erthygl

Mae’r adroddiad yn nodi, pan fydd cynnydd yn dda, bod ymrwymiad cryf gan aelodau etholedig ac uwch arweinwyr at ddatblygu addysg cyfrwng Cymraeg.  I’r gwrthwyneb, mewn rhai awdurdodau lleol lle na chaiff ei ystyried yn flaenoriaeth uchel a chyfrifoldeb swyddogion haen ganol yw cyflwyno, mae cynnydd yn erbyn targedau yn araf.  

Dywed Meilyr Rowlands, y Prif Arolygydd dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru:                                   

“Mae’r flaenoriaeth y mae awdurdodau lleol unigol yn ei rhoi i ddatblygu addysg cyfrwng Cymraeg yn cyfrannu at anghysondeb wrth roi’r cynlluniau hyn ar waith ledled Cymru.  Yn gyffredinol, nid oes digon o bobl yn ymwybodol o’r cynlluniau i ddatblygu addysg cyfrwng Cymraeg yn eu hardal.”

Mwy o ganfyddiadau ac argymhellion

  • Mae rhai awdurdodau lleol yn gwneud defnydd effeithiol o fforymau addysg cyfrwng Cymraeg wrth ddatblygu a monitro eu cynlluniau strategol, ond nid yw awdurdodau lleol eraill yn gwneud hynny.

  • Nid oes gan awdurdodau eraill ddulliau systematig o fesur y galw am addysg cyfrwng Cymraeg ac mae darpariaeth ar ei hôl hi o ganlyniad.

  • Rhai awdurdodau lleol yn unig sy’n ystyried bod cynyddu cyfran y dysgwyr sy’n astudio pynciau TGAU trwy gyfrwng y Gymraeg yn flaenoriaeth.Er bod 50% o awdurdodau lleol yn olrhain nifer y cyrsiau cyfrwng Cymraeg yng nghyfnod allweddol 4, prin yw’r rhai sy’n gosod targedau ar gyfer ysgolion i gynyddu nifer y disgyblion sy’n eu dilyn.

Yn ogystal â mynd i’r afael â’r diffygion hyn, mae’r adroddiad yn argymell y dylai awdurdodau lleol weithio’n agosach gydag ysgolion i:

  • esbonio i ddisgyblion a rhieni beth yw manteision addysg a chyrsiau cyfrwng Cymraeg; a

  • gosod targedau i gynyddu cyfran y disgyblion cyfnod allweddol 4 sy’n astudio Cymraeg fel mamiaith

Mae hefyd yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod:

  • targedau cynlluniau lleol yn cyd-fynd â’r strategaeth addysg cyfrwng Cymraeg

  • awdurdodau lleol yn ystyried cyflawni’r targedau hyn yn flaenoriaeth strategol; a

  • bod gweithredu’r cynlluniau strategol yn cael ei fonitro’n drylwyr.

Nodiadau i Olygyddion:

Ynglŷn â’r adroddiad

Comisiynwyd adroddiad Estyn ‘Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg Awdurdodau Lleol’ gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.  Mae ar gael yn llawn yn https://www.estyn.gov.wales/thematic-reports

Mae’r adroddiad yn ystyried:

  • effaith Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCAau) ar wella cynllunio ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg

  • y dylanwad y maent wedi ei gael o ran ysgogi a chefnogi camau gweithredu i godi safonau Cymraeg a Chymraeg ail iaith

  • i ba raddau y mae cyfrifoldeb statudol awdurdodau lleol o ran llunio CSCAau yn caniatáu ar gyfer cydweithredu â gwasanaethau gwella ysgolion consortia rhanbarthol, a chael cymorth ganddynt

Bu arolygwyr yn casglu tystiolaeth o:

  • ymweliadau ymchwil â sampl o 8 awdurdod lleol: dau ym mhob rhanbarth consortiwm

  • dadansoddiad o CSCAau pob un o’r 22 awdurdod lleol

  • craffu ar ddogfennau cysylltiedig eraill

  • dadansoddiad o ddata a ddefnyddir i fesur deilliannau CSCA

  • safbwyntiau rhanddeiliaid penodol; sampl o rieni, grŵp ffocws penaethiaid

  • dadansoddiad o adolygiadau thematig cysylltiedig Estyn