Cynlluniau hyfforddi yn gwella sgiliau iaith Gymraeg mewn addysg bellach, ond effaith gyffredinol yn anghyson - Estyn

Cynlluniau hyfforddi yn gwella sgiliau iaith Gymraeg mewn addysg bellach, ond effaith gyffredinol yn anghyson

Erthygl

Mae adroddiad, newydd gan Estyn yn canfod, er bod cynlluniau hyfforddi sydd â’r nod o wella sgiliau iaith Gymraeg yn y sector addysg bellach a phrentisiaethau yn cael effaith gadarnhaol, bod anghysondebau yn eu heffeithiolrwydd hirdymor a’u gweithrediad strategol.

Mae’r adroddiad, ‘Cynyddu defnydd o’r Gymraeg yn y sectorau ôl-16’ yn gwerthuso’r rhaglenni hyfforddi a ddarperir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol o dan y Cynllun Gwreiddio, sy’n cefnogi strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg. Mae’r astudiaeth yn canolbwyntio ar dair menter allweddol o fewn y cynllun: sesiynau e-ddysgu, darpariaeth Sgiliaith, a’r cynllun Cymraeg Gwaith Addysg Bellach.

Dengys y canfyddiadau fod y mentrau hyn wedi llwyddo i gynyddu nifer yr ymarferwyr sy’n siarad Cymraeg ac yn cofrestru eu gallu i weithio drwy’r iaith. Fodd bynnag, prin yw’r dystiolaeth i gysylltu’r hyfforddiant yn uniongyrchol â gwelliannau hirdymor mewn addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Er bod mwy o weithgareddau dysgu bellach yn cynnwys ‘ychydig bach o ddysgu cyfrwng Cymraeg,’ ychydig o dwf a fu mewn addysgu dwyieithog lefel uwch a Chymraeg yn unig.

Dywedodd y Prif Arolygydd Owen Evans:

“Mae’n galonogol gweld cynnydd o ran cefnogi staff addysg bellach i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg, fodd bynnag, mae’n rhaid i hyfforddiant fynd y tu hwnt i’r pethau sylfaenol a darparu mwy o gyfleoedd i ymarferwyr ymgorffori addysgu dwyieithog yn eu gwersi, ac mae arweinyddiaeth gref, cynllunio strategol clir, ac ymrwymiad i symud y tu hwnt i hyfedredd iaith cychwynnol yn hanfodol i sicrhau effaith hirdymor.”

Mae’r adroddiad yn amlygu enghreifftiau o arfer effeithiol ble mae darparwyr wedi cael mwy o effaith, gan gynnwys arweinyddiaeth strategol gref, cymhellion ariannol ar gyfer addysgu dwyieithog, ac amser penodedig i staff gwblhau hyfforddiant. Fodd bynnag, erys anghysondebau, yn enwedig o ran blaengynllunio, sicrhau ansawdd, a monitro effeithiolrwydd hyfforddiant ar lefel genedlaethol.

Er mwyn mynd i’r afael â’r materion hyn, mae’r adroddiad yn argymell bod y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn rhoi mwy o arweiniad a her i golegau addysg bellach a darparwyr prentisiaethau i fesur effeithiolrwydd hyfforddiant. Mae hefyd yn galw am ehangu darpariaeth Sgiliaith i gynnig cymhwyster proffesiynol cydnabyddedig ar gyfer addysgu dwyieithog, yn ogystal â mwy o gydnabyddiaeth ariannol ac ymarferol i sgiliau Cymraeg y sector.

Mae argymhellion pellach yn annog Llywodraeth Cymru, colegau addysg bellach, a darparwyr prentisiaethau i sicrhau darpariaeth iaith gyson a mireinio cyfleoedd datblygiad proffesiynol i hyrwyddo addysgeg ddwyieithog.

Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn yma.